CHWARAE A HAMDDEN YNG NGHEFN GWLAD CEREDIGION - CYNGOR SIR CEREDIGION
Fe wnaeth y prosiect Chwarae a Hamdden yng Nghefn Gwlad Ceredigion gan Gyngor Sir Ceredigion dod a phobol at ei gilydd i wella cyfleusterau chwarae a hamdden yn eu hardal leol.
Ymunodd pedwar Cyngor Cymuned â'r Cyngor Sir i ddatblygu gweledigaeth gymunedol ar gyfer chwarae a hamdden yn Llanddewi Brefi, Llanon, Aberteifi a Ponterwyd. Ychwanegwyd Felinfach fel cymuned ychwanegol. Cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol ym mhob cymuned yn ystod haf 2016. Dyluniwyd y digwyddiadau i gasglu adborth gan y gymuned leol am gyfleusterau chwarae a hamdden yn eu hardal er mwyn llunio cynllun Gweithredu Cymunedol i wella'r cyfleusterau.
Er mwyn ymgysylltu'n effeithiol â'r rhanddeiliaid allweddol, gwnaed yr ymgynghoriadau â phobl ifanc yn gyfeillgar a'u hyrwyddo fel parti pentref. Roedd bwyd am ddim ar gael a chynhaliwyd sesiwn chwarae agored gyda mynediad am ddim ochr yn ochr â phob ymgynghoriad. Roedd yr ymgynghoriadau yn weledol, yn rhyngweithiol ac yn ddwyieithog.
Canfu tystiolaeth o'r digwyddiad fod darparu bwyd a gweithgareddau am ddim mewn digwyddiadau ymgynghori yn cynyddu cyfranogiad y gymuned, a bod defnyddio technegau ymgynghori cyfeillgar i bobl ifanc yn hanfodol i gefnogi cynnwys y grŵp oedran iau.
Roedd y ffordd roedd y grwpiau Chwarae a Hamdden wedi’i ddylunio yn caniatáu iddo gael ei drosglwyddo i unrhyw gymuned. Ymhellach, mabwysiadwyd dull y prosiect i ymgysylltu â chymuned Rhydlewis, ac maent wedi datblygu templed i gefnogi cymunedau i ymgysylltu â thrigolion lleol, ac i gyflwyno ceisiadau grant i wella cyfleusterau yn eu hardal.
Mae dau grŵp cymunedol newydd wedi cael eu cefnogi i sefydlu eu hunain fel grwpiau sydd â chyfrifon banc annibynnol. - Pwyllgor chwarae Parc y Felin a Pharc Sglefrio Cyfeillion Aberteifi.
Mae'r prosiect wedi arwain at fwy o gyfranogiad cymunedol mewn ardaloedd chwarae lleol a gwell dealltwriaeth o'r Awdurdod Lleol yn anghenion chwarae a hamdden cymunedau. Mae'r gweithgaredd wedi cynyddu hyder, cyfathrebu ac ymgysylltu yn y cymunedau eu hunain a rhwng yr Awdurdod Lleol a'r cymunedau.
Bellach mae tystiolaeth grif bod angen i’r prosiect Datblygu Cymunedol Gwledig wella ardaloedd chwarae yn y pedair ardal gymunedol a ddaeth ymlaen yn wreiddiol i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn, ac mae tystiolaeth dda o gefnogaeth gymunedol i wella’r cais am arian Ewropeaidd. Rhagwelir mai canlyniad terfynol y gweithgaredd hwn fydd gwella cyfleusterau chwarae a hamdden yn ardaloedd gwledig Ceredigion.
Gallwch ddarllen yr adroddiadau ar bob un o'r pedwar maes isod.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Darllen Pellach