CROESO I GRŴP GWEITHREDU LLEOL CEREDIGION - CYNNAL Y CARDI
Rhaglen ar gyfer Ceredigion
Mae Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020-2035 yn nodi sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd tuag at sicrhau twf economaidd cryf, cynaliadwy a mwy gwydn i Geredigion, a grëwyd ac a rennir gan bawb.
Mae Cynllun Corfforaethol Ceredigion wedi nodi mai rhoi hwb i'r economi yw un o brif blaenoriaethau Cyngor Sir Ceredigion, gan ein bod yn sylweddoli'r angen i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sydd gennym i roi cyfleoedd i'n pobl a'n mentrau i dyfu a ffynnu yma yng Ngheredigion.
Mae Strategaeth Economaidd Ceredigion yn fframwaith i adeiladu a datblygu dyfodol clir a unigryw i Geredigion a’u chymunedau.
Mae’r Strategaeth yn eistedd o fewn yr adran Twf a Menter, Cyngor Sir Ceredigion gyda thîm Cynnal y Cardi yn cyflawni gweithgarwch y prosiect ar lawr gwlad.