Skip to the content

GRŴP GWEITHREDU LLEOL CYNNAL Y CARDI CEREDIGION

LEADER

 

Mae'r Rhaglen LEADER yng Ngheredigion yn cael ei gweithredu gan Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi. Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol wedi'i ffurfio o gynrychiolydd gan dri sector - Preifat, Cymunedol a Chyhoeddus. Y pwrpas yw sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o fuddiannau.

Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol yn gyfrifol am ddatblygu a chyflenwi'r Strategaeth Datblygu Lleol. Mae'r ddogfen yn nodi amcanion, blaenoriaethau strategol a'r camau gweithredu i'w cymryd. Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol yn gyfrifol am ddewis gweithgareddau LEADER a bydd yn rheoli cyllideb i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau er mwyn gwireddu blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol. Bydd monitro a gwerthuso parhaus yn nodwedd allweddol o weithredu'r strategaeth. Os hoffech chi fod yn aelod a'r Grŵp Gweithredu Lleol, gweler isod.

 


Cynrychiolaeth o'r Sector Preifat

  • Undeb Ffermwyr Cymru
  • Twristiaeth Ceredigion Tourism
  • Antur Teifi
  • Menter a Busnes
  • Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr
  • Barcud Cyf

 

Cynrychiolaeth o'r Sector Cymunedol

  • Whilen y Porthmyn
  • Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG)
  • Cymdeithasu Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion
  • Menter Aberteifi
  • Cwmni Buddsoddi Cymunedol Mynyddoedd Cambria
  • Clwb Ffermwyr Ifanc
  • Biosffer Ecodyfi / Dyfi Biosphere
  • Llandysul & Phont Tyweli Ymlaen Cyf
  • Cwmni Theatr Arad Goch
  • Undeb Myfyrwyr Aberystwyth

 

Cynrychiolaeth Sefydliadau Cyhoeddus

  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
  • Prifysgol Aberystwyth

 

Dyddiad y cyfarfod Grŵp Gweithredu Lleol nesaf yw: Dydd Llun 16eg Ionawr 2023

 

BOD YN AELOD O'R GRŴP GWEITHREDU LLEOL

 

Os hoffech drafod bod yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol Ceredigion neu ddysgu rhagor am waith y Grŵp Gweithredu Lleol, cysylltwch â'r tîm Cynnal y Cardi:

Ffôn: 01545 570881
E-bost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

Caiff yr holl ymholiadau a datganiadau o ddiddordeb ynghylch gwneud cais am aelodaeth eu trin yn hollol gyfrinachol ac yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.