Skip to the content

DARGANFOD Y MÔR 

Mae Bae Ceredigion yn darparu llawer o gyfleoedd i ddysgu am fyd natur a’r ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio ag ef: gwylio dolffiniaid, archwilio pyllau glan môr, dysgu am y llanw, ac wrth gwrs pysgota. Mae prosiect Darganfod y Môr yn annog ysgolion ac eraill i fynd allan i’r awyr agored ac archwilio pysgota a’r arfordir drostynt eu hunain.

Yma fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch i gael y gorau o ymweliad â’r traeth, a syniadau ar gyfer dysgu pellach. Rydym wedi paratoi’r adnoddau hyn gydag athrawon mewn golwg, ond maent yr un mor addas i’w defnyddio gan unigolion a theuluoedd, p’un a ydych yn byw yma neu’n ymweld â’r ardal.

CYNLLUNIO YMWELIAD

Gall y môr fod yn beryglus! Gwiriwch y llanw a’r tywydd bob amser cyn i chi gychwyn a gwnewch yn siŵr bod gennych ddillad ac offer addas.

Pecyn Addysg Glan y Môr i Ysgolion Cynradd - Mae'r llyfryn hwn a gynhyrchwyd gan Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn cynnwys gemau a gweithgareddau i blant eu mwynhau ar y traeth, ynghyd ag arweiniad i fywyd gwyllt a chyngor ar ddiogelwch. I weld y pecyn addysg, cliciwch yma.

Pecyn Cymorth Gweithgareddau Diwrnod ar y Cei - Set o weithgareddau i'w lawrlwytho, gan gynnwys crancod, coginio, helfa sborion a chelf. Cliciwch yma i lawrlwytho eich pecyn cymorth gweithgaredd. 

Archwilio Arfordir Cymru – Mae ACA Pen Llŷn a’r Sarnau wedi cynhyrchu amrywiaeth o weithgareddau cyffrous i’ch helpu i archwilio'r arfordir, gan gynnwys pecyn addysg i ysgolion, canllaw pyllau creigiog a llawer o weithgareddau eraill.  Gweler www.penllynarsarnau.co.uk

 

FIDEOS

Mae'r fideos isod yn esbonio mwy am yr arfordir, pysgodfeydd a bywyd gwyllt ym Mae Ceredigion. 

Ymweliad ysgol â’r traeth – Ymunwch ag Ysgol Plascrug wrth i Flwyddyn 3 fynd i byllau glan môr i baratoi ar gyfer gwaith dosbarth ar gynefinoedd. Mae'r ystafell ddosbarth awyr agored yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at ddysgu.

https://youtu.be/9c-C_lygBzA

Diwrnod ym mywyd pysgotwr ym Mae Ceredigion – Dilynwch bysgotwr Cei Newydd Wezley Davies wrth iddo fynd â’i gwch allan i gasglu pysgod cregyn o’i botiau a dal pysgod gyda rhwyd. Pam ei fod yn mwynhau ei swydd gymaint?

https://youtu.be/ZOHCgK7ebbQ

Y daith genweirio – Mae teulu yn mynd allan ar gwch ac yn dal macrell gan ddefnyddio gwialen a lein. A fyddai’n well gennych gael eich bwyd fel hyn, neu o archfarchnad?

 https://youtu.be/KMRL5An48ao

Y stondin bwyd môr – Er bod y rhan fwyaf o’r dalfeydd o gychod pysgota Cymreig yn mynd i Ffrainc a Sbaen, mae Mandy Walters yn gweld galw mawr am ei chrancod wedi’u trin, draenogod y môr, sewin wedi’i ddal gan gwrwgl a chynnyrch eraill ar ei stondin ym marchnad ffermwyr Llandudoch.

https://youtu.be/pQAgIC6Z_aM

Gwarchod bywyd gwyllt ym Mae Ceredigion – Mae dolffiniaid, llamhidyddion a morloi i’w gweld yn rheolaidd o amgylch yr arfordir. Ond mae taith cwch allan o Gei Newydd hefyd yn dangos amrywiaeth eang o rywogaethau adar yn nythu ar y clogwyni.

https://youtu.be/CUPGy8ZmlUs

English  https://www.cynnalycardi.org.uk/flag/discover-the-sea/