Skip to the content

Lansiad prosiect Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru!

 

Mae rhaglen Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, dan arweiniad PLANED, yn falch iawn o lansio'r alwad agored am geisiadau am hybiau bwyd cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.

Gan ysgogi cadwyni cyflenwi bwyd Cymru, bydd y model dosbarthu hyblyg, cynhwysol, amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy hwn, yn dwyn ynghyd grwpiau cymunedol, cynhyrchwyr bwyd a chyflenwyr yng Nghymru

Meddai Alice Coleman, Cydlynydd y Prosiect "fel rhan o raglen dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, mae'r prosiect hwn yn gyfle gwych i adeiladu ar eich gweithgareddau cymunedol presennol neu i fod yn sbardun i ddod â phobl at ei gilydd.  Mae'n ffordd wych o gael gafael ar fwyd ffres gwerth chweil a datblygu sgiliau ymarferol wrth gefnogi cyflenwyr a chynhyrchwyr lleol"

Ydych chi'n grŵp cymunedol, yn ysgol neu'n gyflogwr ac eisiau dod o hyd i ragor o wybodaeth am raglen Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru? 

I gael gwybod mwy, mae dau gyfle i ymuno â sesiynau holi ac ymateb ar-lein am y prosiect a sut i gael gafael ar gymorth a ariennir.  Cynhelir y sesiynau hyn ar 15 Mawrth am 10am a 17 Mawrth am 6pm. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, cadwch le drwy'r ddolen www.communityfood.cymru neu e-bostiwch WCFD@PLANED.org.uk.

Dan arweiniad PLANED, ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth, mae’r prosiect hwn wedi cael arian drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, yn y lle cyntaf cysylltwch ag WCFD@PLANED.org.uk

Am yr awdur

Cynnal Y Cardi