Skip to the content

CYLLID LEADER

BETH ALL LEADER EI GEFNOGI?

 

Mae pob ward yng Ngheredigion wedi cael ei nodi fel rhai sy'n gymwys i gael cymorth o dan y Rhaglen LEADER..

Gall cymorth gael ei ddarparu ar gyfer y canlynol:

  • Datblygu Prosiect
  • Prosiectau Peilot
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Hwyluso
  • Hyfforddiant
  • Mentora
  • Ymgynghori

 


 

Bydd gweithgareddau prosiect yn cael ei gyflawni o dan un o'r Themau LEADER:

YCHWANEGU GWERTH AT HUNANIAETH LEOL AC ADNODDAU NATURIOL A DIWYLLIANNOL

  • Prosiectau sy'n gwneud y defnydd gorau o asedau naturiol megis mentrau tyfu bwyd a dyfir yn y gymuned neu goetiroedd cymunedol.
  • Datblygu gweithgareddau newydd sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd naturiol a threftadaeth.
  • Adeiladu capasiti digwyddiadau i annog cynaliadwyedd.
  • Datblygu syniadau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.
  • Datblygu syniadau sy'n cysylltu cynhyrchwyr, adwerthwyr, arlwywyr ac ymwelwyr a chynnyrch.
  • Gwella gwybodaeth darparwyr twristiaeth lleol o'r amgylchedd naturiol a hanesyddol lleol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir o fewn y thema hon.

HWYLUSO DATBLYGIAD CYN-FASNACHOL, PARTNERIAETHAU BUSNES A CHADWYNI CYFLENWI BYR.

  • Prosiectau sy'n cysylltu sgiliau ac anghenion (Banciau Sgiliau).
  • Datblygu partneriaethau busnes newydd neu dyfu'r rhai sy'n bodoli eisoes.
  • Datblygu cynlluniau mentora/llysgenhadon.
  • Prosiectau sy'n creu diwylliant entrepreneuraidd ac arloesol.
  • Prosiectau sy'n cynnig modd cyflogi pobl leol.
  • Datblygu cynhyrchion neu brosesau newydd.
  • Datblygu a/neu adeiladu ar frandiau Ceredigion.
  • Treialu dulliau arloesol o ddatblygu'r gadwyn gyflenwi.
  • Prosiectau sy'n defnyddio dulliau arloesol o gynyddu nifer y busnesau sy'n ymgysylltu â gwasanaethau cymorth cyhoeddus a phreifat.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir o fewn y thema hon.

ARCHWILIO FFYRDD NEWYDD O DDARPARU GWASANAETHAU LLEOL ANSTATUDOL

  • Treialu ffyrdd newydd o gyflenwi gwasanaethau megis trafnidiaeth.
  • Hwyluso ymgysylltiad cymunedol a gwybodaeth i ganfod cydnerthedd a chapasiti cymunedol er mwyn gallu cyflenwi gwasanaeth.
  • Prosiectau sy'n adeiladu capasiti'r ffactorau lleol er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau lleol.
  • Prosiectau arloesol sy'n gwella iechyd a llesiant pobl leol.
  • Ymchwil ac ymweliadau ag enghreifftiau eraill o brosiectau ymarfer gorau.
  • Prosiectau sy'n datblygu cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau hyfforddi.
  • Cymorth ar gyfer datblygu hybiau cymunedol.
  • Prosiectau sy'n treialu ffyrdd gwahanol o gyflenwi gwasanaethau anstatudol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir o fewn y thema hon.

YNNI ADNEWYDDADWY AR LEFEL GYMUNEDOL

  • Gweithgareddau ymgysylltiad cymunedol i ledaenu gwybodaeth am ynni adnewyddadwy i gymunedau.
  • Archwiliadau ynni i adnabod cymunedau sy'n fannau poeth ar gyfer ynni adnewyddadwy neu effeithlonrwydd ynni.
  • Prosiectau sy'n cefnogi lleihau tlodi tanwydd yn y sir.
  • Prosiectau sy'n defnyddio buddion cymunedol o ynni adnewyddadwy i leddfu tlodi.
  • Prosiectau sy'n helpu busnesau i fod yn fwy ynni effeithlon.
  • Prosiectau sy'n defnyddio adnoddau naturiol i gynnig datrysiadau lleol.
  • Hwyluso cymorth gan gymunedau trwy gyfrwng ymweliadau mentora ac ymgyfarwyddo.
  • Gweithgareddau ymgysylltu i ledaenu gwybodaeth am ynni adnewyddadwy i dirfeddianwyr a busnesau gwledig.
  • Cyrchu tanwydd o goetiroedd cymunedol.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir o fewn y thema hon.

MANTEISIO AR DECHNOLEG DDIGIDOL

  • Prosiectau sy'n cynyddu'r defnydd o dechnolegau digidol o fewn y sectorau busnes a chymunedol.
  • Prosiectau sy'n defnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau.
  • Prosiectau sy'n adeiladu ar lwyfannau gwe sy'n bodoli neu sy'n creu rhai newydd.
  • Prosiectau sy'n cynyddu'r defnydd o dechnolegau digidol i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd busnes.
  • Treialu cynlluniau mentora neu gyfeillio i annog y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Treialu ffyrdd arloesol o ddefnyddio technolegau newydd i ddarparu gwybodaeth.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am brosiectau a ariennir o fewn y thema hon.

Mae cydweithredu yn fwy na rhwydweithio yn unig; mae'n cydweithio er budd cyffredin. Mae'n annog ac yn cefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol i weithredu ar y cyd â grŵp LEADER arall, neu gyda grŵp sy'n cymryd agwedd debyg, mewn rhanbarth neu wlad arall. Gall prosiectau cydweithredu ddarparu cyfleoedd i wella'r potensial i oresgyn heriau trwy weithio gyda phobl a chymunedau mewn ardaloedd gwledig eraill yng Nghymru, y DU neu Ewrop.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am brosiectau a ariennir yn y thema hon.

Cewch wybod rhagor am LEADER yn y ffilm fer hon gan y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae'r rhaglen LEADER yn darparu cymorth refeniw yn unig ond gall y gwasanaeth ysgrifennu traethawd gael ei ddefnyddio i gefnogi eitemau o offer hyd at £10,000.


Nid oes rhestr derfynol o wariant cymwys. Dylid trafod manylion y gweithgarwch prosiect â'r tîm LEADER, a all gynnig arweiniad ar gymhwysedd gwariant.


Rhaid i weithgareddau a gefnogir o dan LEADER gael eu cysylltu ag un o bum thema LEADER ac yn benodol ag un o'r blaenoriaethau a nodir yn strategaeth Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi.


Cyfeiriwch at y ddogfen ganlynol i gael manylion am y Strategaeth Datblygu Lleol ac enghreifftiau o weithgarwch LEADER posibl.

 

Blaenoriaethau Strategaeth Datblygu Lleol LEADER Cynnal y Cardi

CYMORTH ARIANNOL

 

Gellir darparu hyd at 70% o gostau cymwys. Rhaid i 30% gael ei gyfrannu mewn cyllid cyfatebol. Gall cyllid cyfatebol gael ei ddarparu ar ffurf anian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau.


Mae cyfraniadau mewn nwyddau yn wasanaethau, eitemau neu'n gynnyrch a roddwyd ar ffurf papur fforddiadwy i'r prosiect gan unigolyn neu sefydliad lle na fu unrhyw drafodion arian parod. Rhaid i'r holl gyfraniadau mewn nwyddau fod yn gysylltiedig â darparu'r prosiect neu weithgarwch LEADER arall.


Ar gyfer cyfraniadau gwirfoddol cysylltwch â'r Tîm Cynnal y Cardi am y cyfraddau gwirfoddol diweddaraf i'w defnyddio wrth gyfrifo'r cyfraniadau.

CYSYLLTWCH Â'N TÎM CYFEILLGAR

Cysylltu â ni

Ebost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk  Ffôn: 01545 570881

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni.

 

Mae 'Enw cyntaf' yn faes angenrheidiol
Mae 'Enw olaf' yn faes angenrheidiol
Rhowch gyfeiriad Ebost dilys