Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (y Gronfa) yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (y DU), ac yn rhan sylweddol o’r cymorth y mae’n ei ddarparu i leoedd ledled y DU. Mae’n darparu arian dros gyfnod o dair blynedd i’w fuddsoddi’n lleol.

Cafodd £42 miliwn ei neilltuo i ranbarth y Canolbarth o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2025.

Prif nod y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU. Mae hyn yn gydnaws â chenadaethau’r Papur Gwyn ar Ffyniant Bro, yn enwedig: “Erbyn 2030, bydd balchder mewn lle, megis boddhad pobl â'u tref leol a'r ffordd y maent yn cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol a chymunedol lleol, wedi cynyddu ym mhob rhan o'r DU, a bydd y bwlch rhwng yr ardaloedd sy'n perfformio orau ac ardaloedd eraill yn lleihau".

Mae cynghorau Ceredigion a Phowys yn cydweithio i roi’r Gronfa ar waith yn y Canolbarth.

Mae hyn yn golygu bod un cynllun rhanbarthol ar gael ar gyfer y Canolbarth, gyda dyraniadau ariannol ar wahân ar gyfer Powys a Cheredigion.

Mae’r Gronfa’n caniatáu ar gyfer cymysgedd o brosiectau ar draws gwahanol ardaloedd daearyddol. Gallwn ystyried cefnogi prosiectau a fydd o fudd i bobl neu sefydliadau ym Mhowys neu yng Ngheredigion – neu ar y cyd ar ffurf prosiect mwy o faint ar draws y Canolbarth. Gallwn hefyd ystyried cefnogi prosiectau sy’n cydweithredu ag awdurdodau lleol tu allan i’r Canolbarth.

Ceir pedair prif flaenoriaeth o ran buddsoddiadau’r Gronfa:

  1. Cymunedau a Lle - Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd
  2. Cefnogi Busnesau Lleol - Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd
  3. Pobl a Sgiliau - Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd
  4. Lluosi (rhifedd ymhlith oedolion) - Mae'r gronfa hon yn agor ar yr 2il o Hydref 2023

O fewn pob un o’r themâu buddsoddi hyn, cafodd prif flaenoriaethau lleol (y cyfeirir atynt fel ymyriadau) eu pennu hefyd. Fe’u hamlinellir yng Nghynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru, ynghyd â’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r rhanbarth yn eu hwynebu, a’r allbynnau a’r canlyniadau y mae Llywodraeth y DU am weld prosiectau’n eu cyflawni.

Mae Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol UKSPF Canolbarth Cymru i’w weld ar dudalen Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru (sgroliwch i lawr i’r gwaelod) ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

Yn ogystal â’r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol, cyn dechrau ar eu ceisiadau, dylai ymgeiswyr ddarllen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws, ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

I gael mwy o wybodaeth am raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn y Canolbarth, cysylltwch â’r naill dîm neu’r llall yn y Cynghorau Sir:

Bydd ceisiadau ar gyfer y gronfa hon Lluosi, CFfG y DU yn agor yng Ngheredigion ar 2il Hydref, 2023.

Sut i Wneud Cais:

Dylai pob ymgeisydd lawr lwytho ffurflen gais a'r ddogfen ganllaw. Sgroliwch i lawr am ddolenni i'r rhain a dogfennau atodol.

Bydd ceisiadau rhanbarthol yn cael eu hystyried; cysylltwch â'r tîm drwy UKSPF@ceredigion.gov.uk i drafod ymhellach.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11:59pm Dydd Sul 29ain Hydref, 2023.

Anfonwch eich ceisiadau wedi'u cwblhau i UKSPF@ceredigion.gov.uk.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Ceredigion ar UKSPF@ceredigion.gov.uk.

Pecyn Gais a Dogfennau Atodol

I gael rhagor o wybodaeth am y manylion pwysig y dylai sefydliadau feddwl amdanynt cyn gwneud cais, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin Canolbarth Cymru ar wefan Tyfu Canolbarth Cymru.

Am fwy o wybodaeth e-bostiwch: