Skip to the content

PWLL NOFIO CARON - CYNGOR TREF TREGARON

Mae Pwll Nofio Tregaron wedi bod ar gau ers mis Hydref 2017 ac mae mewn perygl difrifol o ddod yn blot ar dirwedd Tregaron, gerllaw ysgol newydd a agorodd ym mis Medi 2018.

 

Bydd y prosiect hwn yn ariannu ail gam y prosiect sef y cam datblygu. Mae hyn yn cynnwys costiadau fel dadansoddiad o’r farchnad / ymchwil, sesiynau ymgynghori, astudiaeth ddichonoldeb i gynnwys cynllun busnes 5 mlynedd ar gyfer y prosiect, ynghyd â ffioedd cyfreithiol, ffioedd pensaer ac arolwg gwresogi. Mae datblygiad y prosiect rhwng Cyngor Tref Tregaron a Hamdden Caron Leisure.

 

Pwrpas terfynol y prosiect trosfwaol fel rhan o'r cyllid TRIp yw adnewyddu'r pwll, dymchwel y cyfleuster newid presennol, ac ailadeiladu adeilad deulawr a fyddai'n gartref i ardal newid un-rhyw, derbynfa ac o bosib, pwll babanod neu ardal chwarae meddal ar y llawr gwaelod ac ardal eistedd / gwylio / cyfarfod cymunedol ar yr ail lawr.

 

Rhan gyntaf y cam a ariennir Cynnal y Cardi yw penodi ymgynghorydd a fydd yn ymgysylltu â'r gymuned a rhanddeiliaid gyda'r nod o gynhyrchu Astudiaeth Ddichonoldeb, sy'n cynnwys Cynllun Busnes ar gyfer y Pwll Nofio. Ochr yn ochr â hyn, bydd pensaer yn cael ei benodi i gyflawni'r gwaith dylunio, ac ymgynghoriad â'r cyhoedd i gwblhau'r cynlluniau ar gyfer y pwll nofio.

 

Bydd yr astudiaeth Ddichonoldeb hefyd yn edrych ar ffrydiau cyllido eraill sydd ar gael i ddatblygu cyfleusterau hamdden, a hefyd y posibilrwydd o system gwresogi biomas. Byddai hefyd yn edrych ar ymarferoldeb cysylltu â sefydliadau eraill fel Hamdden Caron, Capel Bwlchgwynt a Clwb Bowlio Tregaron i ddarparu gwres ar eu cyfer hefyd.

Gweler yr astudiaeth ddichonoldeb yma. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.