Skip to the content

OERGELL CYMUNEDOL ABERPORTH - CALON Y GYMUNED

Fel rhan o gynllun brosiect trosfwaol Calon y Gymuned o newid Neuadd Bentref Aberporth sy'n heneiddio gydag adeilad modern sy'n effeithlon o ran ynni, bydd prosiect peilot Oergell Gymunedol Aberporth yn cefnogi gosod oergell gymunedol a chyflogi cydlynydd rhan-amser.

Bydd y prosiect peilot hwn nid yn unig yn darparu tystiolaeth o effeithiolrwydd tymor hir yr oergell Gymunedol ond bydd hefyd yn cefnogi ystod o bobl ac yn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac arwahanrwydd gwledig.

I ddechrau, bydd yr oergell yn cael ei rhedeg gan gydlynydd rhan-amser gyda chymorth tasglu o wirfoddolwyr, a fydd yn gyfrifol am hylendid, stocio a rheoli'r oergell. Bydd cynnyrch yn cael ei gasglu (gan wirfoddolwyr) gan Tesco (ac unrhyw archfarchnad rhannu bwyd lleol arall) ynghyd â busnesau lleol a'r gymuned gan gynnwys cynnyrch gardd dros ben.

I ddechrau, bydd yr oergell wedi'i lleoli yng Nghanolfan Dyffryn, adeilad cymunedol sy'n eiddo i Neuadd Bentref Aberporth. Bydd hyn am gyfnod dros dro tra bydd gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn neuadd y pentref presennol.

Bydd yr oergell gymunedol yn galluogi datblygu gweithgareddau eraill fel clwb cinio rheolaidd ar gyfer pobl hŷn ynghyd â swper cymunedol a dosbarthiadau coginio. Bydd hefyd yn helpu teuluoedd difreintiedig i gael gafael ar fwyd iach, da a lleihau gwastraff bwyd.

Fe agorwyd y cyfleuster gan AS lleol, Ben Lake ym mis Medi, 2021. Lansiwyd ymgyrch recriwtio i wirfoddolwyr yn ogystal ag ymgyrch hysbysebu i’r oergell yn y gymuned. Mae’r oergell i nawr ar agor 5 bore’r wythnos ac mae’r prosiect wedi recriwtio bron i 50 o wirfoddolwyr. Mae cyfanswm o 3 tunnell o wastraff bwyd wedi'i arbed o safleoedd tirlenwi ac mae dros 400 o bobl wedi defnyddio’r oergell. Mae’r prosiect hefyd wedi ysbrydoli prosiectau cymunedol eraill fel yr ardd gymunedol, clwb cyfrifiaduron a hefyd boreuon coffi. Mae’r oergell yn gweithredu fel hwb i’r gymuned ac mae wedi annog balchder cymunedol a chydlyniant.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.