Skip to the content

MAES CHWARAE TALYBONT - CYMDEITHAS MAES CHWARAE TAL-Y-BONT

Nid yw pentref Talybont erioed wedi cael cae chwarae i'r gymuned, ac ar ôl i dimau pêl-droed yr oedolion ac ieuenctid y pentref golli'r defnydd o’r cae y roeddent wedi'i ddefnyddio ers rhai blynyddoedd, fe wnaethant benderfynu chwilio am dir addas i'w ddatblygu.

 

Pwrpas y prosiect felly oedd ymgymryd ag ymchwil a fyddai'n arwain at greu cae newydd yng nghanol y pentref, ac ar gael i'r gymuned gyfan. Ar ôl nodi tir addas, roedd angen gwaith sylweddol ar y tir i'w ddatblygu'n faes chwarae.

 

I ddechrau'r astudiaeth ddichonoldeb, comisiynwyd GEO Turf Consulting a derbyniwyd adroddiad cynhwysfawr ar ddiwedd 2018. Yn ystod y broses cynhaliwyd cyfarfod agored llwyddiannus ym mis Ionawr 2019, a fynychwyd gan dros wyth deg o drigolion y gymuned.

 

Yn dilyn hyn, comisiynwyd , Earth Science Partnership i archwilio natur y tir dan sylw, yn enwedig mewn perthynas â draenio tir. Roedd disgwyl i ESP wneud ymchwil ychwanegol ac, oherwydd, cynigiwyd llunio cynllun draenio gan GEO Turf. Fodd bynnag, penderfynodd y Gymdeithas nad oedd y prosiect yn ymarferol, felly, ni aeth yr elfen hon o'r prosiect yn ei blaen a daeth y prosiect i ben.

I ddarllen yr adroddiad llawn ar y prosiect hwn cliciwch yma.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.