Skip to the content

HWB LLES ABERTEIFI - CANOLFAN FFITRWYDD A PWLL NOFIO ABERTEIFI

 

Nod prosiect dichonoldeb Hwb Lles Aberteifi yw edrych ar y potensial i weithio gyda amrywiaeth o phartneriaid i greu Hwb Llesiant hunangynhaliol, ecogyfeillgar, blaengar a 100% hygyrch.

Byddai'r canolbwynt lles yn darparu cyfleusterau i Aberteifi a De Ceredigion i gefnogi unigolion o bob cefndir, oedran a gallu i fyw bywydau boddhaus, annibynnol ac egnïol. Cefnogi eu hiechyd corfforol a meddyliol, gwella eu lles trwy hyrwyddo ymddygiadau iach a'u galluogi i gymryd cyfrifoldeb am eu lles eu hunain.

 

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn ystyried:

  • Cyd-destun a chanlyniadau strategol - iechyd / lles / dysgu blynyddoedd cynnar, cynaliadwyedd / dyfodol mwy effeithlon a gwydn / ehangu'r tymor Twristiaeth.
  • Angen, galw ac asesiad o'r farchnad - Beth sydd ar waith a'r bylchau presennol yn y ddarpariaeth. Osgoi dyblygu neu ddadleoli gwasanaethau presennol.
  • Opsiynau ar gyfer cyflwyno - Manteision ac anfanteision ar gyfer pob un (gan gynnwys yr opsiynau presennol). Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys arfarniad opsiynau yng ngham 1, a fydd yn helpu i lywio'r ffordd orau ymlaen.

 

Ar ôl sefydlu'r briff perfformiad, dylunio a chynllunio, bydd yr astudiaeth ddichonoldeb wedyn yn darparu amcangyfrif o gost datblygu y gellir ei defnyddio i bennu'r potensial ar gyfer cyllid trydydd parti, gan gynnwys cymorth grant.

I weld yr astudiaeth ddichonoldeb, cliciwch yma. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.