Skip to the content

GOFAL CARDI - IECHYD A GOFAL GWLEDIG CYMRU

Mae “Gofal Cardi” yn brosiect peilot a fydd yn ymchwilio i weld a yw cymunedau gwledig eraill yn gallu defnyddio pecyn cymorth, a ddatblygwyd gan Solva Care, fel sail i efelychu a dyblygu'r model gofal cymunedol llwyddiannus sydd ynddo ar hyn o bryd yn Solva, Sir Benfro. Y nod yw adeiladu a chynnal cymuned fywiog, gref a chysylltiedig mewn pentrefi wrth weithio'n agos gyda'r Cyngor Cymuned a grwpiau a sefydliadau lleol eraill.

 

Fe fydd y pecyn offer arloesol yn cael ei dreialu mewn cymuned wledig yng Ngheredigion, i weld a ellid dyblygu model Gofal Solva yn llwyddiannus mewn man arall, er budd cymunedau gwledig eraill. Cwblhawyd pecyn offer Solva yn ddiweddar ac mae i'w weld yma.

 

Gan fod y peilot hwn i brofi dyblygiad y pecyn cymorth, mae'n bwysig bod cymuned sy'n debyg iawn i gymuned Solva yn cael ei dewis i dreialu'r cit trwy'r prosiect “Gofal Cardi”. Pentref glan môr bach yw Solva, sy'n ddibynnol iawn ar dwristiaeth sydd â phoblogaeth o tua 800 o bobl, y mae cyfran fawr ohonynt dros 60 oed a hefyd nifer fawr ohonynt wedi symud i'r ardal. Mae pedwar lleoliad a allai fod yn addas wedi'u nodi yng Ngheredigion i redeg y prosiect, yn seiliedig ar wybodaeth ddemograffig a daearyddol - Aberporth, Llangrannog. Cei Newydd a Borth.

 

Bydd cam cyntaf y prosiect yn cynnwys ymgysylltu â'r pedair cymuned i amlinellu'r prosiect Gofal Cardi a'r potensial i gymryd rhan. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn hanfodol er mwyn i'r prosiect lwyddo a chynhelir cyfres o arolygon gyda thrigolion yn y pentrefi hyn i ddarganfod diddordeb ac anghenion. Cynhaliwyd hyn yn Solva ar ddechrau Solva Care, felly mae hyn yn rhan bwysig o'r ymchwil prosiect.

 

Ar ôl i'r ymchwil hon gael ei chynnal, bydd y pentref sydd â'r lefel fwyaf o ddiddordeb ac anghenion, gyda chefnogaeth gymunedol gref, yn cael ei ddewis ar gyfer y peilot. Yn ystod y cam hwn, gofynnir i breswylwyr nodi a ydynt yn dymuno cofrestru fel gwirfoddolwr, pe bai eu pentref yn cael ei ddewis, felly bydd adnodd gwirfoddol yn dechrau cael ei goladu. Hefyd ar yr adeg hon penodir Cydlynydd.

 

Bydd ymchwil yn cael ei gynnal drwyddi draw i ddarganfod lefel yr ymgysylltu, pa mor hawdd yw'r pecyn offer i'w efelychu, yr effaith ar y gymuned a'r potensial i'r prosiect barhau ar ôl i'r cyllid ddod i ben. Rhagwelir os fydd y pecyn cymorth yn cychwyn model llwyddiannus o ofal cymunedol yng Ngheredigion, y ceisir cyllid fel rhan o rôl y Cydlynydd i sicrhau bod y prosiect yn parhau ar ôl i gyllid Cynnal y Cardi ddod i ben. Mae un rhan o'r pecyn cymorth a fydd yn cael ei dreialu yn canolbwyntio ar gyllid ac felly mae hon yn elfen bwysig o'r ymchwil.

 

Am fwy o wybodaeth am ein prosiectau, i drafod eich syniadau neu am wybodaeth am gymhwyster cymorth ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063; e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk; neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.