Skip to the content

AR DY FEIC - IECHYD A GOFAL GWLEDIG CYMRU

Bwriad y prosiect yw gweithio gyda phobl ifanc ledled Ceredigion trwy ymgysylltu â phlant a myfyrwyr i arolygu eu barn ar gael amrywiaeth o “feiciau” statig awyr agored ar draws Ceredigion sydd yn gwefru ffonau symudol a hefyd yn cynhyrchu trydan ar gyfer y grid cenedlaethol.

 

Mae'r prosiect Ar dy Feic” yn seiliedig ar yr angen i gynyddu gweithgareddau corfforol ym mywyd pob dydd. Mae hefyd yn gysylltiedig â materion amgylcheddol yn yr ystyr ei fod yn cynhyrchu ynni glân o ffynonellau cynaliadwy - pŵer corfforol dynol. Mae wedi'i anelu'n arbennig at bobl ifanc a bydd yn darparu cyswllt rhwng gweithgaredd corfforol a'r lefel uchel o ymgysylltu â dyfeisiau ffonau symudol sy'n gyffredin ymysg pobl ifanc heddiw.

 

Bydd cefnogi'r defnydd o'r beiciau hyn ar gyfer cynhyrchu ynni yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o'r safleoedd, a fydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o fuddion gweithgaredd corfforol a hamdden awyr agored. Mae'r buddion hyn nid yn unig ar iechyd cyfranogwyr, ond hefyd ar lesiant, a bydd y ddwy agwedd arnynt yn cael eu mesur yn ystod y cyfnod ymchwil.

 

Ochr yn ochr â chyflwyno'r holiaduron, cynigir cynnal 3 grŵp ffocws thrafodaeth ar draws Ceredigion, lle mae o leiaf 8 o bobl ifanc yn mynychu i drafod y prosiect “Ar dy Feic” arfaethedig ac archwilio heriau, cyfleoedd a materion eraill posibl sy'n gall effeithio ar ei lwyddiant. Y cynnig yw ceisio ymgysylltu â phobl ifanc sy'n mynychu clybiau ieuenctid neu grwpiau eraill o bobl ifanc sydd wedi'u sefydlu ymlaen llaw yng Ngheredigion.

 

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn llunio'r prosiect, o'r dull cychwynnol o nodi a oes galw digonol iddo fynd ymlaen i'r cam gosod a'r dull y bydd y gosodiad yn ei gymryd, h.y. nifer a mathau o feiciau, a'u lleoliad.

 

Mae'n bwysig pwysleisio eto na fydd y beiciau hyn gael eu lleoli mewn canolfannau gweithgaredd corfforol traddodiadol fel canolfannau hamdden neu gampfeydd, gan mai eu nod yw denu defnydd gan bobl sydd ddim yn ddefnyddwyr campfa reolaidd / traddodiadol, ond a allai gael eu denu at eu defnyddio nhw fel modd i gynhyrchu pŵer ar gyfer eu dyfais symudol, gyda budd iechyd pryderus.

 

Mae pweru ffonau symudol yn offeryn ysgogol arloesol sy'n ceisio annog gweithgaredd corfforol - gwneud rhywbeth hollol newydd i wefru ffôn ond elwa o'r effaith gysylltiedig ar iechyd y defnyddiwr.

Fe wnaeth y prosiect cefnogi'r gosodiad o offer yn Aberaeron, Aberteifi a Llambed. Roedd gan y prosiect hwn bwyslais penodol ar iechyd a lles ein pobl ifanc ac mae eu cyfraniad at sut mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu wedi bod yn bwysig iawn. Mae’n hanfodol ein bod yn edrych am ffyrdd i ddatblygu gwahanol ddulliau o wella iechyd a lles pobl, ac rydym yn edrych ymlaen at weld manteision y dull arloesol hwn.

 

Am fwy o wybodaeth am ein prosiectau, i drafod eich syniadau neu am wybodaeth am gymhwyster cymorth ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063; e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk; neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.