Skip to the content

AMETHYST - THEATR BYD BYCHAN

Roedd prosiect Amethyst yn brosiect peilot gan Theatr Byd Bychan a oedd yn gweithio gyda phobl ifanc a oedd yn profi materion yn ymwneud â phryder, iselder, hwyliau isel, hunan-niweidio, syniadaeth hunanladdol, hyder isel a hunan-barch isel.

 

Roedd y gweithgareddau a dreialwyd fel rhan o’r prosiect yn ategu’r cymorth arall y mae pobl ifanc yn ei gael gan sefydliadau statudol neu drydydd sector er mwyn gwella llesiant.

Datblygodd y rhaglen ddwy flynedd wahanol sesiynau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran ledled y sir, yn ogystal â sesiynau i rieni a theuluoedd er mwyn iddyn nhw adeiladu dealltwriaeth o sut i gefnogi plant sy'n dioddef o'r materion hyn.

 

Fe wnaeth y pecyn cymorth unigryw o dechnegau helpu i archwilio eu perthynas â nhw eu hunain ac eraill, i nodi rhwystrau y maent yn eu hwynebu yn eu bywydau a chwilio am atebion cadarnhaol. Roedd y technegau'n cael eu hymarfer mewn man diogel lle gall pobl ifanc deimlo'n gyfforddus. Roedd y technegau’n cynnwys ‘amser cylch’ i feithrin ymddiriedaeth a sgiliau gwrando; ymarferion drama a gemau hwyliog; edrych ar ymdopi â phryder, hwyliau isel a lles emosiynol cyffredinol; a chodi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl sy'n effeithio ar bobl ifanc trwy berfformiadau dwyieithog rhyngweithiol.

 

Cynhaliodd y prosiect nifer o sesiynau, tua 3-4 awr, ar draws y sir ar gyfer y bobl ifanc gan gynnwys;

  • Sesiynau ar gyfer pobl ifanc 12-14 a 15-18 oed yn Aberteifi a gyfeiriwyd gan sefydliadau statudol a thrydydd sector.
  • Sesiynau i bobl ifanc 14-16 a 16-18 yn Aberystwyth a gyfeiriwyd gan asiantaethau allanol.
  • Sesiynau dwyieithog mewn 5 ysgol iau ledled y sir.

 

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, bu’n rhaid i Amethyst addasu ei weithgareddau, felly, cafodd y prosiect drwydded Zoom a dechreuodd redeg sesiynau ar-lein. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys y grwpiau oedran 14-18 Amethyst o ogledd a de Ceredigion a sesiynau Rhiant/Gwarcheidwad a arweiniodd hefyd at fwy o rieni yn gallu mynychu.

 

Gan adlewyrchu ar fuddion y prosiect, mae’r canlyniadau’n dangos bod lles ac iechyd meddwl cyfranogwyr mewn grwpiau oedran 12-18 wedi gwella, mae ymwybyddiaeth sylweddol wedi’i chodi o wella lles ar gyfer plant oed ysgol iau a gwell mynediad at gymorth a sgiliau ar gyfer rhiant/gwarcheidwad cyfranogwyr.

Roedd canlyniadau cadarnhaol o Amethyst hefyd yn amlwg trwy adborth y cyfranogwyr gan gynnwys un cyfranogwr yn nodi “Nid yn unig tactegau sy'n helpu gydag iselder a phryder, mae'n helpu gyda phethau eraill y tu allan i'r Prosiect Amethyst fel dicter a phethau ... Nid yn unig y cwnselwyr a'r gweithwyr, ond y bobl eraill sy’n dod i Amethyst sydd wedi bod yn gefnogol.”

I weld yr adroddiad lledaenu llawn ar brosiect peilot Amethyst, cliciwch yma.

I weld yr astudiaeth achos, cliciwch yma.