Skip to the content

PENPARCAU YN Y GANOLFAN CELFYDDYDAU - CANOLFAN Y CELFYDDYDAU ABERYSTWYTH

Nod y prosiect peilot APT: Canolfan y Celfyddydau a Phenparcau Gydai Gilydd oedd partneru Fforwm Cymunedol Penparcau gyda Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar gyfer 'Trosfeddiannu Creadigol' lle bydd aelodau grwpiau Fforwm Penparcau a thrigolion Penparcau eraill yn rhedeg ac yn rheoli'r lleoliad yn effeithiol am wythnos, gyda chefnogaeth tîm Canolfan y Celfyddydau.

 

Cefnogodd y prosiect hwn ddatblygiad sgiliau trosglwyddadwy’r hyfforddeion, gan eu helpu i ddod yn fwy cyflogadwy, a mynd i’r afael â phrinder sgiliau penodol ar gyfer sectorau’r celfyddydau creadigol, lletygarwch a thwristiaeth yn yr ardal.

 

Dros gyfnod o flwyddyn hyfforddodd staff Canolfan y Celfyddydau profiadol breswylwyr o Benparcau mewn ystod eang o sgiliau gan gynnwys technegol, rheoli digwyddiadau, lletygarwch, marchnata a chyllidebu ar gyfer y celfyddydau creadigol dros gyfnod o flwyddyn i'w helpu i ddod yn fwy cyflogadwy.

 

Ar ddiwedd cyfnod y prosiect hyfforddi, trosglwyddwyd Canolfan y Celfyddydau i Fforwm Penparcau, a gynhaliodd set o ddigwyddiadau wedyn a rhoi eu sgiliau newydd eu hennill ar waith mewn amgylchedd celfyddydau proffesiynol, byw. Fe wnaethant gyflwyno gig cerddoriaeth fyw gyda’r Hornettes, diwrnod o ddangosiadau sinema (tri i gyd) a chystadleuaeth ac arddangosfa ffotograffiaeth a agorwyd gan Elin Jones AC. Cynhyrchwyd ffilm fideo o’r prosiect, a recordiwyd rhaglen ‘Stiwdio’ ar gyfer Radio Cymru.

 

I ddarganfod mwy am lwyddiant y prosiect gwyliwch y fideo hwn - Gwyliwch y fideo

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.