Skip to the content

Entrepreneuriaid Cynnal y Cardi

Roedd prosiect Academi’r Dyfodol, a gyflwynwyd gan Goleg Ceredigion, yn hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu mwy am yrfaoedd posib mewn amrywiaeth o sectorau yng Ngheredigion. Fe wnaethant nid yn unig ennill profiad ymarferol, ond hefyd ennill sgiliau a dysgu sut mae sectorau'n gweithio. Amlygodd y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ddod yn entrepreneuriaid.

Yn dilyn hyn, comisiynodd Cynnal y Cardi AMP Digital i greu cyfres o ffilmiau o entrepreneuriaid lleol yn hyrwyddo'r posibiliadau yng Ngheredigion. Mae llawer o enghreifftiau gwych o bobl yng Ngheredigion sydd wedi dechrau eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac roedd hwn yn gyfle i arddangos y llwyddiannau hynny.

Mae'r busnesau a ffilmiwyd yn rhan o'r prosiect yn cynnwys Cattle Strength, In the Welsh Wind, Gwinllan Llaethliw, JW Aerial Solutions ac AMP Digital.

 

Cattle Strength

Yr entrepreneur ifanc lleol, Rhys Jones, yw perchennog Cattle Strength. Wedi'i leoli yn Nyffryn Aeron, mae Cattle Strength yn darparu dull personol a phremiwm o hyfforddi personol sy'n cael ei ddarparu mewn cyfleuster campfa breifat ar fferm. I weld ffilm Cattle Strength, cliciwch yma.

 

In the Welsh Wind

Alex ac Ellen yw perchnogion In the Welsh Wind, sydd wedi’i leoli yn Nhanygroes yn edrych dros Fae Ceredigion. Mae In the Welsh Wind yn ddistyllfa sy'n arbenigo mewn creu gwirodydd unigryw wedi'u teilwra i chi yn eu distyllbeiriau copr Meredith ac Afanc. I weld ffilm In the Welsh Wind, cliciwch yma.

 

Gwinllan Llaethliw

Ar ôl ymchwilio i arallgyfeirio ffermydd a newid yn yr hinsawdd, plannodd y teulu Evans, sy'n lleol i ddyffryn Teifi a dyffryn Aeron, eu gwinwydd cyntaf yn 2009. Mae Gwinllan Llaethliw wedi'i lleoli ar yr arfordir wrth odre Mynyddoedd Cambria yn Neuaddlwyd, Aberaeron a chaiff ei rheoli gan y mab, Jac. I weld ffilm Gwinllan Llaethliw, cliciwch yma

 

JW Aerial Solutions

Mae JW Aerial Solutions wedi cofleidio byd ffotograffiaeth a fideos o'r awyr. Wedi'i leoli yng Ngorllewin Cymru, mae'r perchennog a'r entrepreneur ifanc, Jamie, bellach yn ei ail flwyddyn o fod yn beilot masnachol a gymeradwywyd gan CAA, gan weithio ar ystod eang o brosiectau sy’n amrywio o gynhyrchu ffilmiau nodwedd i archwilio ac arolygu toeon. I wylio ffilm JW Aerial Solutions, cliciwch yma.

 

AMP Digital

Mae AMP Digital yn Asiantaeth Greadigol sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol ac sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth. Gyda blynyddoedd lawer o brofiad, mae Charles a'i dîm yn arbenigo mewn strategaeth brand a chynhyrchu cynnwys. I weld ffilm AMP Digital, cliciwch yma.