Skip to the content

CANOLFAN TIR GLAS - PRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT ​

Bydd datblygiad Canolfan Tir Glas yn caniatáu i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant weithredu fel sefydliad craidd yn ardal Llanbedr Pont Steffan a Ceredigion, gyda'i champws wedi'i ddatblygu i ddod yn gonglfaen ar gyfer unrhyw strategaeth drawsnewid leol.


Bydd Canolfan Tir Glas, canolfan sy'n seiliedig ar berthynas yr ardal â'i thir, yn cynnwys cyfres o unedau annibynnol, megis Canolfan Busnes a Menter Wledig, Canolfan Hydwythdedd Cymru (wedi'i chysylltu'n agos â'r Hwb Hydwythdedd Llanbedr Pont Steffan) a Chanolfan Gastronomeg genedlaethol. (yn seiliedig ar Brifysgol y Gwyddorau Gastronomig yn Pollenza, yr Eidal a'r Ysgol Bwyd Artisan).


Bydd y prosiect yn comisiynu cwmni annibynnol i gynnal Asesiad Effaith Economaidd ar ei gynlluniau, a phenodi unigolyn cymwys i ymgymryd â rôl ymgysylltu ar ei ran.


Bydd y prosiect hwn yn sefydlu isadeiledd, a fydd yn caniatáu cydweithredu a chyfranogi ar y cyd, yn cynyddu hyder yn yr oes ôl-Covid-19 trwy annog meddylfryd mwy arloesol yn lleol a sefydlu canolfan gorfforol, y gall pobl leol elwa ohoni e.e. cysylltiad band llydan cyflym, adnoddau i fusnesau, labordai profi, rhannu arfer da ac ati.

Dros amser, yn dilyn y prosiect hwn, mae gan Ganolfan Tir Glas y potensial i weithredu fel canolfan hyfforddi ôl-16 ddwyieithog gan ymateb i anghenion dysgwyr a chyflogwyr yn y rhanbarth mewn meysydd blaenoriaeth fel busnes, menter, hamdden a thwristiaeth, amaethyddiaeth, bwyd a lletygarwch. Byddai'r pwyslais ar y cyd-destun gwledig a'r dulliau cynaliadwy yn y dyfodol.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.