Skip to the content

NANT YR ARIAN - CWMNI BUDD CYMUNEDOL MENTER MYNYDDOEDD CAMBRIAN

Bydd y prosiect gan Gwmni Budd Cymunedol Menter Mynyddoedd Cambrian yn cynhyrchu astudiaeth ddichonoldeb a chynllun busnes i lywio datblygiad yr adeilad gwag cyn-CCW yn Bwlch Nant yr Arian yn y dyfodol.

Mae gan Gwmni Budd Cymunedol Menter Mynyddoedd Cambrian ddiddordeb yn enwedig mewn defnyddiau:

  • Adeiladu ymwybyddiaeth o dirwedd, natur, treftadaeth ddiwylliannol Mynyddoedd Cambrian a Ceredigion
  • Hyrwyddo cyfleoedd i'r economi leol
  • Darparu adnodd i bobl leol ac ymwelwyr
  • Cynhyrchu incwm i gefnogi gwaith Menter Mynyddoedd Cambrian.

 

Mae'r defnyddiau posib ar gyfer yr adeilad yn cynnwys:

  • Canolfan Treftadaeth / Gwybodaeth Mynyddoedd Cambrian
  • Gweithgareddau awyr agored: llogi beiciau; manwerthu cysylltiedig; cyfleusterau newid / cawod
  • Sylfaen / cyfleuster ar gyfer profiadau awyr agored a lleol: MTB dan arweiniad, cyfeiriannu, cerdded, natur, treftadaeth
  • Cynnyrch Mynyddoedd Cambrian / Ceredigion (manwerthu)
  • Canolfan Awyr Dywyll

Mae’r ymgynghorydd gyda tasg o edrych ar leoliadau eraill lle mae prosiectau o'r math hwn wedi bod yn llwyddiannus a nodi'r allweddi i lwyddiant a meysydd risg posibl. Fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb mae yna hefyd broses ymgynghori gyda'r gymuned leol gan gynnwys busnesau lleol ac eraill. Ymgynghorir â defnyddwyr cyfredol yr adeilad, gan gynnwys pobl leol ac ymwelwyr, ynghylch eu barn ar gyfer ailddatblygiad posibl yr adeilad. Ar ôl cwblhau'r astudiaeth, bydd adroddiad terfynol ar gael i'r cyhoedd.

Gweler yr adroddiad terfynol yma. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.