Skip to the content

HEN LINELL BELL - CWMNI THEATR ARAD GOCH 

“Y digwyddiad mwyaf rhyfeddol rydw i wedi'i brofi mewn dros 30 mlynedd o fyw yn Aberystwyth... Rwy'n credu bod pawb rydw u’n hadnabod yn Aber yno ac, ymhlith y twristiaid a'r bobl leol niferus, roedd yna bobl nad oeddwn wedi eu gweld ers blynyddoedd. Roedd teimlad cymunedol gwych yno! Roedd yn teimlo fel digwyddiad a oedd wir yn perthyn i Aber. Roedd yn teimlo fel petai wedi bod yn rhan o Aber erioed” 0 Mireille Escande de Messieres, aelod o’r cymuned.

 

Pwrpas y prosiect Hen Linell Bell - A Far Old Line gan Gwmni Theatr Arad Goch oedd dathlu diwylliant Ceredigion trwy gyfres o berfformiadau a digwyddiadau celfyddydol cyffrous o ansawdd uchel mewn lleoliadau ar draws y dref; llawer ohonynt yn yr awyr agored. Dros gyfnod o ddeng mis, bu Cwmni Theatr Arad Goch yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol - ysgolion, busnesau, clybiau, a chymdeithasau - i greu a threfnu gŵyl arloesol a chynhwysol.

 

Un o brif amcanion yr ŵyl, a ysbrydolwyd gan straeon yr ardal, gan gynnwys stori Cantre’ Gwaelod, a oedd hefyd yn cyd-daro â Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru, oedd dod â chymuned Aberystwyth a'r ardal gyfagos at ei gilydd gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gymryd rhan ynddynt.

 

Mae'r prosiect nid yn unig wedi rhoi hwb i ddiwydiant twristiaeth y dref ac wedi cynnig rhywbeth a fyddai'n denu mwy o ymwelwyr i'r ardal, ond mae hefyd wedi codi proffil ardal Aberystwyth fel lle creadigol bywiog a diddorol i fyw ac ymweld a. Trawsnewidiodd Aberystwyth yn galeidosgop o liw a phot o greadigrwydd yn ystod yr haf wrth godi proffil y Gymraeg mewn ffordd hwyliog a diddorol.

 

Roedd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys:

  • Cynhaliwyd noson gyhoeddus ym mis Tachwedd 2016 i wahodd aelodau'r gymuned leol i gynnig awgrymiadau ar sut i arddangos a phortreadu elfennau o hanes Cantre'r Gwaelod.
  • Ym mis Mawrth 2017 cynhaliwyd noson lansio. Comisiynwyd dau ddawnsiwr lleol, Anna ap Robert ac Alaw Griffiths i greu dawns werin newydd ‘Gwyddno’, a dawnsiodd pawb y ddawns gyda'i gilydd am y tro cyntaf.
  • Comisiynwyd y cerddor Patrick Rimes o'r band gwerin enwog Calan i ysgrifennu cerddoriaeth newydd ar gyfer y ddawns.
  • Dysgodd Alaw ac Anna'r ddawns i gannoedd o bobl mewn swyddfeydd, ysgolion, clybiau, corau lleol ac yn yr awyr agored. Roedd yna hefyd nifer o nosweithiau gwerin yng Nghanolfan Arad Goch ac mewn tafarndai lleol, a daeth cerddorion lleol ynghyd i chwarae a dysgu alaw newydd Gwyddno.
  • Anogwyd pobl leol i rannu eu chwedlau eu hunain a straeon 100 o eiriau; cyhoeddwyd llyfr o 100 o straeon ar ddiwedd yr ŵyl a dosbarthwyd y llyfr trwy siopau lleol, gwestai a bwytai.
  • Cynhaliwyd gweithgareddau marchnata, gweithdai technegol a sain a gweithdai gwisgoedd yng Nghanolfan Arad Goch ar gyfer aelodau'r gymuned.
  • Roedd y gweithdai yn cynnwys gweithdai celf, argraffu, gwneud gwisgoedd a hetiau, creu baneri, adeiladu ar y traeth, creu cerfluniau gyda lluniad o ddrifft a phafin - i gyd am ddim.

 

Mae'r prosiect wedi codi proffil ardal Aberystwyth fel lle creadigol bywiog a diddorol i fyw ac ymweld ag. Gwelodd pobl leol fod digwyddiadau ar raddfa fawr yn digwydd, ymunodd nhw fewn, ac roedd hyn yn gwella ansawdd bywyd a chydlyniad cymdeithasol. Drwy gydol y prosiect cynhaliwyd dros 150 o ddigwyddiadau unigol a welodd dros 6900 o bobol yn cyfranogi neu yn gwylio.

 

O ganlyniad i fodolaeth y prosiect, roedd gweithdai a gynhaliwyd gan Hen Linell Bell am ddim, roedd hyn yn golygu bod llawer o aelodau'r gymuned leol wedi dysgu sgiliau newydd y gellid eu defnyddio mewn agweddau eraill o fywyd bob dydd. Nid yn unig y gwnaeth pobl o bob oedran a rhyw fudd ond gwnaeth yr iaith Gymraeg, ffermydd a busnesau elwa.

 

Cafwyd adborth cadarnhaol gan y cyhoedd a fynychodd y gwahanol weithgareddau.

 

“Gŵyl wych oedd yn tynnu trigolion lleol ac ymwelwyr at ei gilydd i ddathlu diwylliant unigryw'r gornel hyfryd yma o Gymru… Roedd hi mor braf cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau dwyieithog ac i gynnig cyfle i ymwelwyr hefyd glywed Cymry Cymraeg yn sgwrsio ochr yn ochr â nhw”.

 

Yn amlwg, o natur y cwrs, gwelir canlyniadau ei ganlyniadau yn y blynyddoedd i ddod wrth i'r unigolion a fynychodd gael y profiad i ddatblygu a gweithredu'r prosiect ar raddfa fawr ac i safon uchel. Bydd gan unigolion a grwpiau'r sgiliau a'r hyder i weithredu'r math hwn o brosiectau ar raddfa fawr eto yn y dyfodol.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.