Skip to the content

GORWEL A GWREIDDIAU - CERED A THEATR FELINFACH

 

Mae Gorwel a Gwreiddiau yn brosiect gan Cered a Theatr Felinfach a ddatblygwyd oddi ar gefn Creu 2020 a oedd creu prosiect perfformio i gyfrannu at gyffro Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020.

Oherwydd Covid-19 bu’n rhaid i weithgareddau’r Eisteddfod a Creu 2020 ddod i ben, felly, addasodd Cered a Theatr eu gwaith a datblygu llwyfannau a phresenoldeb digidol sydd wedi cadw, cynyddu a thrafod yr awydd i ddechrau cynllunio’r dyfodol yn y goleuni o'r oes newydd sydd ar y gorwel. Y trafodaethau hyn a ddechreuodd fel Creu 2020 a arweiniodd at y gymuned yn creu prosiect ac uchelgais Gorwel a Gwreiddiau.

Bydd Gorwel a Gwreiddiau yn dod â phobl o bob oed a chefndir ynghyd mewn cyfres o brosiectau a fydd yn cydnabod treftadaeth ac yn archwilio dylanwadau ac agweddau cyfredol i ddatgloi potensial y dyfodol. Mae'r prosiect wedi'i rannu'n 3 rhan.

Rhan 1

Bydd y prosiect yn cyflogi Arweinydd Creadigol i ddod o hyd i, creu a chydlynu rhwydweithiau a chysylltiadau er mwyn trefnu, coladu a chefnogi sgyrsiau, cofiannau a straeon lleol o brofiadau yn seiliedig ar dair thema: Sgiliau, Bywyd a Gwaith. Yn dilyn y rhan hon, bydd yr Arweinydd Creadigol ac aelodau o'r gymuned yn creu adnodd digidol o bosibl ar ffurf sgyrsiau cwestiynau ac ateb digidol.

Rhan 2

Bydd yr Arweinydd Creadigol yn nodi grŵp bach o bobl o bob rhan o'r sir i ymweld â 3 adeilad eiconig; Yr Hen Goleg, Castell Aberteifi a Ffactri Llaethdy Llanio ac yn recordio ar ffilm eu hymatebion i'r adeiladau. Bydd y prosiect hefyd yn cysylltu'r bobl ifanc ag unigolion mentrus lleol sy'n creu "Trochi Menter" yn seiliedig ar rannu profiadau entrepreneuriaid ac ysbrydoledig. Bydd y gwaith yn rhoi cyfle i bobl ifanc gydnabod potensial eu dyfodol a gweithredu ar y potensial hwnnw. Fel rhan o'r gwaith bydd cyfle i ddatblygu sgiliau digidol i greu darnau creadigol, er enghraifft ffilm, ffotograffau, clipiau sain neu bodlediadau sy'n ymateb yn onest i'r profiadau.

Rhan 3

Rhan olaf y prosiect fydd lle bydd yr awdur a'r grŵp cymunedol yn trafod ac yn datblygu sgript a fydd yn defnyddio'r deunydd digidol, atgofion ac ymatebion a gasglwyd ac a grëwyd yn ystod y 2 gam blaenorol gyda'r nod o greu perfformiad amlgyfrwng i'w lwyfannu mewn 3 lleoliad yn y sir. Bydd y rhain yn berfformiadau hygyrch, lle gall cynulleidfa fod yn bresennol ond hefyd bydd fersiwn ddigidol o'r perfformiadau yn cael ei chreu ar gyfer ar lein ynghyd â chynhyrchu DVD.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.