Skip to the content

DATBLYGU TWRISTIAETH GYNALIADWY - PENTIR PUMLUMON

O ganlyniad i'r adroddiad a luniwyd o'r astudiaeth ddichonoldeb Adfywio'r Ucheldir, cyflwynodd Pentir Pumlumon gais i LEADER ar gyfer y prosiect Datblygu Twristiaeth Gynaliadwy, er mwyn ariannu swyddog datblygu rhan amser dros 2.5 mlynedd i ddatblygu a chyflawni'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Nod y prosiect yw archwilio a datblygu cynllun gweithredu ymwelwyr diwylliannol/treftadaeth, creu cynllun gweithredu ymwelwyr/gweithgareddau chwaraeon, datblygu cyfleoedd cefn gwlad/natur i ymwelwyr a ymgodymu a materion trafnidiaeth gyhoeddus i'r gymuned a thwristiaid.

 

Mae gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys:

  • Codi ymwybyddiaeth o asedau twristiaeth yn yr Ucheldiroedd
  • Dyfeisio cynllun llysgennad
  • Cychwyn digwyddiadau a gwyliau a dathliadau
  • Manteisio ar gyfleoedd a gyflwynir gan y brand ‘Hinterland’ i ddenu ymwelwyr newydd i’r ardal
  • Adeiladu gallu i ymateb i anghenion ymwelwyr
  • Datblygu seilwaith ar gyfer mordwyaeth
  • Gwella cysylltiadau trafnidiaeth werdd
  • Adeiladu diwylliant entrepreneuriaid
  • Hwyluso Gwelliannau Seilwaith

 

Bydd ystod eang o bobl yn elwa o'r prosiect yma gan gynnwys; pobl ifanc, pobl hŷn, menywod, siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, cartrefi ffermio, microfusnesau, busnesau bach a chymuned Ucheldir Gogledd Ceredigion i gyd.

Mae’r prosiect wedi dangos y gwerth o gyflogi swyddog twristiaeth sydd wedi creu ymdeimlad o berthyn, rhwydwaith o bobl o’r un anian o’r sector twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â  phobl o’r cymunedau lleol. Fel canlyniad o’r prosiect, mae’r cymunedau yma wedi teimlo fel eu bod nhw’n cael eu cefnogi, ac wedi cael eu derbyn a’u croesawi, sydd wedi datblygu naws dda. Mae’r gymuned yn teimlo balchder ac mae ganddynt obaith i’r dyfodol.

Mae swyddi wedi cael eu diogeli, ac mae busnesau a’r gymuned wedi derbyn gwybodaeth ddefnyddiol o’r wefan newydd a phresenoldeb gweithgar y cyfryngau cymdeithasol newydd. Mae busnesau a’r gymuned wedi elwa o ddigwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal, ac mae ymgysylltu â grwpiau eraill wedi helpu pawb. Mae pob grŵp yn gobeithio y bydd y gweithgareddau yn parhau i’r dyfodol, sydd yn dangos llwyddiant y prosiect.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.