Skip to the content

CEREDIGION360 - GOLWG CYF

O ganlyniad i brosiect peilot Bro360, bydd Golwg yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb, Ceredigion360 i ddarganfod a oes awydd i greu a chynnal gwefannau ardaloedd lleol bywiog, cynaliadwy ar draws Ceredigion i gyd, a chreu model masnachol cynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fwy o gymunedau - o ran yr iaith Gymraeg, datblygu cymunedol a'r economi leol.

 

Nod prosiect Ceredigion360 yw:

  • Archwilio'r galw a'r diddordeb ymhlith cymunedau i greu gwefannau stori a chyfathrebu lleol ac ehangu'r rhwydwaith cyfredol o wefannau ardaloedd lleol yng Ngheredigion i gynnwys y sir gyfan.
  • Archwilio’r bylchau o ran sgiliau TG a'r gallu i ddefnyddio TG a'r Gymraeg ymhlith cymunedau lleol.
  • Archwilio’r galw gan fusnesau a chwsmeriaid am blatfform Cymraeg newydd i hyrwyddo masnach leol, yn enwedig o ystyried effeithiau Covid-19.
  • Archwilio dulliau o ariannu cynnal a chadw gwefannau uwch-leol mewn ffordd gynaliadwy.

Os yw’r astudiaeth ddichonoldeb yn cadarnhau bod galw am ddatblygu gwefannau ardaloedd lleol yng ngweddill Ceredigion, y nod wedyn fyddai buddsoddi mewn ymestyn y rhwydwaith o wefannau ardaloedd lleol, gan ychwanegu at wefannau llwyddiannus cyfredol Ceredigion.

Gweler yr adroddiad terfynol yma. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.