Skip to the content

ASTUDIAETH DDICHONOLDEB I GWMPASU'R ANGEN AM ANTURIAETHAU DIWYLLIANNOL DAN ARWEINIAD YNG NGHEFN GWLAD CEREDIGION - LLANDYSUL A PHONT TYWELI YMLAEN

Egwyddorion y prosiect hwn oedd archwilio barn y sectorau twristiaeth a gwasanaethau, a'u hymwelwyr am yr angen a'r galw am Anturiaethau Diwylliannol Tywys yng nghefn gwlad Ceredigion.

Amcan yr astudiaeth ddichonoldeb hon, gan Landysul a Phont Tyweli Ymlaen (LPY), oedd casglu tystiolaeth gadarn a fydd yn dylanwadu ar gynnig i ddatblygu teithiau tywys rheolaidd o ansawdd uchel i fannau o ddiddordeb gyda ffocws arbennig ar cefnwlad Llandysul.

Dyfarnwyd y tendr ar gyfer gwneud y gwaith a chynhyrchu adroddiad i Wales Best Guides Enterprises Ltd., cangen fasnachu o WOTGA, Cymdeithas Tywyswyr Twristiaid Swyddogol Cymru, a chafwyd tystiolaeth drwy ddosbarthu holiaduron.

Mae'r adroddiad a gynhyrchwyd fel rhan o'r prosiect yn darparu canlyniadau'r holiadur ac yn cynnwys Cynllun Gweithredu a nifer o argymhellion ar sut i gyflawni'r Teithiau Tywys Anturiaethau Diwylliannol. I weld yr adroddiad llawn, cliciwch yma.