Skip to the content

ADNABOD GORSGOCH - CYNGHRAIR WARD LLANWENOG

Mae'r prosiect Adnabod Gorsgoch wedi dod i Cynnal y Cardi gan Gynghrair Ward Llanwenog.

Mae Cynghrair Ward Llanwenog yn cynnwys grŵp o bobl sy'n awyddus i gryfhau diwylliant lleol plwyfi Llanwenog a Llanwnnen. Dyma brosiect cyntaf Cynghrair Cymuned Ward Llanwenog ac, yn unol ag amcanion y Gynghrair, bydd y prosiect yn ychwanegu at fywiogrwydd ardal Gorsgoch yn Ward Llanwenog, gan gofnodi a chadw gwybodaeth fel bod pobl leol o bob oed a chefndir, yn ogystal â gall ymwelwyr elwa.

 

Amcanion y prosiect oedd i clirio nifer o lwybrau lleol a chreu tair taith gerdded, codi byrddau gwybodaeth gyda disgrifiad byr o brif nodweddion yr ardal a cyfarwyddo pobol i ddod i adnabod hanes a chyfoeth naturiol yr ardal.

Fe wnaeth gweithgareddau'r prosiect cynnwys cyflwyno gwybodaeth ychwanegol a llawnach am yr holl lwybrau lleol gan ddefnyddio technoleg i-beacon, ymchwil ar ymchwil lleol, atgofion, arteffactau, lluniau, tapiau sain a fideo,  rhannu gwybodaeth a datblygu brwdfrydedd a balchder lleol ymhlith pobl leol, gan gynnwys newydd-ddyfodiaid i'r ardal a chyflwyno gwybodaeth am hanes a diwylliant Gorsgoch gyda byrddau gwybodaeth, deunydd digidol a theithiau cerdded.

Canolbwyntiodd y prosiect ar bentref Gorsgoch ond bydd hefyd o fudd i ardal ehangach - gan fod y cynllun yn creu gweithgaredd newydd ar gyfer ysgolion a sefydliadau dros ardal eang. Trwy greu model ar gyfer pentrefi eraill yn yr ardal, maent hefyd yn rhagweld y gallai hyn arwain at fudd uniongyrchol i holl ward Llanwenog. Os yw'n llwyddiannus, bydd hefyd yn denu mwy o ymwelwyr i dreulio amser yn yr ardal.

Fe gynhaliwyd lansiad o'r prosiect ar 17eg o Fedi, 2022,  gydag aelodau o’r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill yna. Cafodd Taith Gerdded ei gynnal yn ystod y cyfnod Nadolig yn 2021 gyda grwpiau cerdded lleol i hysbysebu’r prosiect. Yn ogystal â’r digwyddiadau yma, cynhaliwyd sesiwn gyda phlant o’r ysgol leol yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am hanes yr ardal ac i ddysgu mwy am y prosiect.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.