Skip to the content

ACADEMI ARWEINYDDIAETH GYMUNEDOL - CERED A THEATR FELINFACH – CYNGOR SIR CEREDIGION

“Mae'r Academi wedi bod yn brofiad unigryw, ar ôl bod yn rhan ohono, gallwch ddod yn arweinydd eich ardal.” Elliw Davies – myfyriwr y prosiect.

 

Bwriad y prosiect oedd sefydlu Academi Arweinyddiaeth Gymunedol, a chafodd ei adnabod mwy fel “Academi Bro”, ar gyfer pobl oedran 18-30 tra’n gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau yng Ngheredigion; Cered, Theatr Felin-fach, Coleg Ceredigion ac IAITH Cyf. Bu'r prosiect hefyd yn gweithio gyda nifer o asiantaethau blaenllaw eraill yng Ngheredigion.

Y nod oedd cynyddu gallu lleol i sicrhau cymdogaethau Cymraeg a chymunedau dwyieithog cynaliadwy yng Ngheredigion. Roedd yr Academi Bro yn targedu pobl ifanc o bob cwr o Geredigion.

 

Mae’r prosiect wedi nid yn unig cynyddu gallu (capasiti) lleol i sicrhau cymdogaethau Cymraeg lleol a chymunedau dwyieithog cynaliadwy yng Ngheredigion ond hefyd galluogi oedolion ifanc 18-26 oed i feithrin sgiliau arwain yn y gymuned ac yn eu cymdogaeth. Yn ogystal, mae’r prosiect wedi caniatáu trosglwyddiad o sgiliau arweinyddiaeth gymunedol i'r genhedlaeth nesaf, ac amlygu pwysigrwydd gwneud hyn ar y ddaear, a rhoi cyfle i nodi cyfleoedd ychwanegol i ymgysylltu â rhannu arfer da gan grwpiau ac unigolion yn y gymuned ac wedi hynny cynorthwyo wrth ystyried a chynllunio i addasu'r cynllun ar gyfer y dyfodol.

 

Fel rhan o'r broses, cynlluniodd y myfyrwyr brosiectau cymunedol o'u dewis eu hunain a'u cwblhau yn eu cymunedau yn ystod y cwrs 9 mis.

 

Roedd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys:

  • Penwythnos preswyl yn Llangrannog ym mis Tachwedd 2016. Yn dilyn y penwythnos, cynhaliwyd cyfres o sesiynau yn Aberaeron a Felinfach rhwng Ionawr ac Ebrill 2017. Cynhaliwyd 3 sesiwn addysgol agored hefyd yn Felinfach, Aberaeron ac Aberteifi. Yn dilyn diwedd y cwrs 2016-2017 cafwyd noson wobrwyo yn y Feathers yn Aberaeron.
  • Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi yn Felinfach ym mis Ionawr 2018. Dilynwyd hyn gan 3 sesiwn hyfforddi misol yn Felinfach a 3 sesiwn addysgol agored yn Aberystwyth, Llandysul a Llanbedr Pont Steffan.
  • Cyrsiau datblygu dwys blynyddol.
  • Cyfleoedd dysgu anffurfiol i unrhyw unigolion cymwys sydd gyda ddiddordeb.

 

O ganlyniad o fodolaeth y prosiect, mae gigs cerddoriaeth Cymraeg i’w glywed yn rheolaidd yn Aberystwyth. Sefydlwyd Clwb Ieuenctid Cristnogol yn Llandysul sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc yr ardal gyfarfod, ymlacio a dysgu sut mae bod yn Gristion da.  Trwy ymateb i gyhoeddiad diweddar yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron 2020, mae myfyriwr wrthi’n trefnu Cyngerdd i godi arian at yr achos.

Mae’r uchod yn enghreifftiau o bethau ‘weledol’ a gyflawnwyd o ganlyniad uniongyrchol o’r prosiect.

O'r 2 flynedd (2016-2018) cynhaliwyd y prosiect, cwblhawyd a gweithredwyd y prosiectau canlynol:

  • Sefydlu côr i blant 7 – 13 oed yn ardal Brynhoffnant.
  • Codi proffil cynnyrch lleol Cymraeg.
  • Creu tudalen Facebook yn awgrymu / addysgu pobl sut i gymryd cyfrifoldeb dros iechyd ei hunain gyda’r bwriad o leihau baich y GIG.
  • Hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg yn Aberystwyth trwy cynnal prynhawn o gerddoriaeth yn y Bandstand.
  • Ymgysylltu ac ymateb i anghenion grŵp Plant y Dyffryn, Llandysul.

 

Rhaid cofio ac ystyried y budd, tyfiant a datblygiad personol mae’r myfyrwyr wedi llwyddo i’w wneud yn ystod hyn hefyd. 

 

“Mae’r Academi wedi rhoi’r cyfle, yr hyder a’r gefnogaeth i mi fynd ati i gychwyn prosiect cymunedol yn Aberystwyth a fydd yn trio gwneud gwahaniaeth yn lleol.  Mae’r mentora a’r sesiynau cwestiwn ac ateb gydag ystod o bobl brofiadol yn y maes o ddatblygu prosiectau amrywiol wedi bod yn werthfawr iawn i mi.”

 

Cafwyd adborth cadarnhaol gan fyfyrwyr a'r cyhoedd a fynychodd y sesiynau agored. Roedd y myfyrwyr wedi elwa mewn amrywiaeth o ffyrdd, roedd disgwyliadau pawb yn wahanol ac roedd y cwrs yn cyfrannu at gynnydd yn hyder llawer o unigolion. Yn amlwg o natur y cwrs, gwelir canlyniadau ei ganlyniadau yn y blynyddoedd i ddod wrth i'r unigolion a fynychodd aeddfedu ac ymroi ymhellach i'w cymunedau.

 

Un o'r myfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn ystod 2016 - 2017 oedd Caryl Griffiths. O ganlyniad, ym mis Mehefin 2017, ffurfiwyd côr 'Plant y Bryn' gydag ymarferion wythnosol yn Ysgol T Llew Jones. I ddarllen yr astudiaeth achos lawn ar lwyddiant Caryl cliciwch yma.

 

Yn frwd dros gerddoriaeth Gymreig oedd myfyriwr arall o flwyddyn gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn ystod 2016-2017, Steffan Rees. Gwnaeth Steffan gais am le ar y cwrs yn y gobaith o gyflwyno a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg yn Aberystwyth. O ganlyniad mae Steffan eisoes wedi trefnu cyngerdd cerddoriaeth Gymraeg llwyddiannus gyda pherfformwyr talentog yn Aberystwyth. I ddarllen yr astudiaeth achos lawn ar lwyddiant Steffan gliciwch yma.

 

This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.