CYNNAL Y CARDI CRONFA GRANT LEADER
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi lansio Cronfa Grant newydd, fel rhan o'r cynllun LEADER, a fydd yn cefnogi gweithgaredd LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.
Gall y gronfa eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, gyda'r nod o ddarparu cymorth refeniw ar raddfa fach i:
- Sefydliadau wrth iddynt adfer yn dilyn covid.
- Cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyn-fasnachol.
- Peilota gweithgareddau arloesol sy’n cynnig cyfleoedd i brofi cysyniad syniad.
- Cynorthwyo gweithgarwch sy’n cryfhau cydlynu cymunedol.
Gallwn gynnig rhwng £1,000 a £10,000, a bydd gofyn cwblhau’r holl weithgarwch a hawlio’r cyllid erbyn 30 Tachwedd 2022. Gellir cyrchu'r ddogfen ganllaw trwy glicio yma.
Bydd y Cyllid Grant yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau canlynol o Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi:
- cefnogi gweithgarwch gyda’r nod o wella cyfleoedd i ddatblygu economi gylchol Ceredigion
- cefnogi ymyrraeth gynnar ar gyfer datblygu gweithgarwch cyn-fasnachol gyda’r bwriad o feithrin cyfleoedd entrepreneuriaid
- cryfhau gwytnwch cymunedol gan ganolbwyntio ar rôl y Cynghorau Tref a Chymuned wrth gefnogi ac ymgysylltu â’u cymunedau
- meithrin cyfleoedd i ail-ymgysylltu â phobl ac ail-rymuso gweithgarwch cymunedol yn dilyn COVID-19 a threialu defnydd arloesol ar gyfer cyfleusterau cymunedol
I weld y dogfen Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi llawn cliciwch yma.
Pwy all Ymgeisio?
Gellir derbyn ceisiadau gan:
- Sefydliadau di-elw / mentrau cymdeithasol a phartneriaethau;
- Elusennau Cofrestredig;
- Grwpiau a rhwydweithiau cymunedol ffurfiol (h.y.rhaid bod ganddynt gyfrif banc gyda 2 lofnodwr, rhwydwaith/grŵp cymunedol a gyfansoddwyd);
- Mentrau o’r sector preifat gan gynnwys unig fasnachwyr, pobl hunangyflogedig, mentrau micro/bach, cwmnïau cyfyngedig, partneriaethau;
- Y sector cyhoeddus.
Beth ellir ei gefnogi?
Gellir darparu cefnogaeth ar gyfer y canlynol:
- Animeiddio
- Hyfforddiant
- Mentora
- Astudiaethau Dichonoldeb
- Prosiectau Peilot
- Hwyluso
Gellir gweld y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyniadau yn y tabl isod. Mae croeso i gyflwyniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau |
Penderfyniad yn cael ei roi |
18 Ebrill 2022 |
9 Mai 2022 |
23 Mai 2022 |
28 Mehefin 2022 |
20 Mehefin 2022 |
18 Gorffennaf 2022 |
25 Gorffennaf 2022 |
22 Awst 2022 |
Gellir cyrchu'r ddogfen ganllaw trwy glicio yma.
Yn dilyn trafodaethau cychwynnol gyda'r tîm, os yw'n gymwys, bydd y tîm yn darparu'r ffurflen gais i chi ei llenwi. Rhaid i chi gysylltu â'r tîm i drafod eich syniadau yn y lle cyntaf.
Gallwch gysylltu â'r tîm trwy e-bosto cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.