Skip to the content

NATUREFIX AR GYFER IECHYD A LLES - COED LLEOL

Nod prosiect cydweithredu Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles gan Coed Lleol, a ddarparwyd yng Ngheredigion, Merthyr a Castell-nedd Port Talbot oedd integreiddio, hyrwyddo a datblygu rhagnodi cymdeithasol ar gyfer iechyd a lles awyr agored yn llawnach yn y sector iechyd yng Nghymru.

Roedd y prosiect nid yn unig yn mynd i’r afael â’r bwlch mewn ymgysylltu digidol sydd, yn y byd modern, yn allweddol i hyrwyddo’r rôl y gall natur ei chwarae mewn iechyd meddwl a chorfforol, ond fe wnaeth hefyd dreialu datblygiad adnoddau digidol newydd fel offeryn ar gyfer rhannu profiadau a dysgu.

Trwy’r gwaith a wnaed fel rhan o’r prosiect hwn, cysylltwyd â dros 223 o weithwyr iechyd a lles proffesiynol posibl, ac o ganlyniad i hyn, bu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau.

Mae llwyddiant y prosiect Naturefix wedi darparu model ar gyfer cyflwyno hyn i feysydd eraill sydd wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn cyfeirio at y gweithgareddau ac yn galluogi'r prosiect i weithio gyda chyfeirwyr i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o chydweithio i ddiwallu'r angen.

Yn ogystal, mae buddion gweithgareddau’r prosiect fel a ganlyn:

Rhannu Sgiliau Digidol – datblygu a phartneriaeth

Roedd y chwe seminar digidol a gysylltodd Coed Lleol â Green Care Y Ffindir yn caniatáu i'r sefydliad rannu arfer a deall yn well y mecanweithiau a ddefnyddir ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ym mhob gwlad. Nod yr holl sesiynau oedd datblygu sgiliau newydd, rhannu arfer a chryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau ac ar draws diwylliannau a ffiniau rhyngwladol.

 

Partneriaeth a Hyrwyddo

Roedd y dull gweithredu lleol yn canolbwyntio ar ddenu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i brofi iechyd awyr agored gan ddefnyddio’r coed yn uniongyrchol fel y gallant brofi a chlywed am y manteision a magu hyder wrth gyfeirio at weithgareddau tebyg. Mae ymchwil wedi dangos bod diffyg dealltwriaeth o'r cysyniad o iechyd awyr agored yn aml yn rhwystr i atgyfeiriadau. I fynd i’r afael â hyn, cynhaliwyd 5 sesiwn drochi, gyda’r sesiynau’n targedu gweithwyr proffesiynol gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl lleol gan gynnwys meddygon teulu, timau iechyd meddwl y GIG, Cydlynwyr Cymunedol ac asiantaethau atgyfeirio’r Trydydd Sector.

Yn dilyn y sesiynau yng Ngheredigion, mae Coed Actif Ceredigion wedi dechrau rhaglen gyda gwasanaethau dydd Ceredigion. Yn ogystal, maent wedi gallu tynnu sylw at brosiect Trywydd Iach (Iechyd Awyr Agored) yng Ngheredigion, sy’n cael ei redeg gan y sefydliad lleol Eco Dyfi gyda chefnogaeth Coed Lleol, sy’n cysylltu cyfranogwyr ag ystod o weithgareddau awyr agored yn yr ardal (therapi â chymorth anifeiliaid, grwpiau cerdded, grwpiau coetir, a grwpiau cadwraeth).

Fel rhan o’r prosiect, crëwyd nifer o ffilmiau a fideos byr gan wneuthurwr ffilmiau proffesiynol Mike Erskine o Reconnect in Nature, gan arddangos sut mae gweithgareddau lles coetir yn cael eu cyflwyno, gan ddarlunio’r gweithgareddau ar waith a’r effaith ar gyfranogwyr o’u safbwynt nhw.

Mae’r ffilmiau byr a’r fideos i’w gweld isod:

 

Yn ogystal, crëwyd 3 astudiaeth achos fel rhan o’r prosiect i amlygu ei lwyddiant sydd i’w weld trwy glicio yma.