Skip to the content

CREFFT BWYD CYFOES - COLEG SIR GAR A COLEG CEREDIGION

Roedd yr astudiaeth ddichonoldeb Crefft Bwyd Cyfoes gan Goleg Syr Gar a Choleg Ceredigion yn brosiect cydweithredu rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Mae'r sector bwyd a ffermio yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru ac mae'n cwmpasu rhan fawr o'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod. Nod y prosiect oedd ymgynghori â bylchau sgiliau penodol y diwydiant a'u nodi, i gefnogi cadw gweithwyr â setiau sgiliau uwch yng Nghymru a chynyddu'r cyfleoedd ar gyfer twf yn y gadwyn gyflenwi a thwf economaidd y sector.

Roedd gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys:

  • Gwerthuso statws cyfredol y Farchnad
  • Ymgynghori â Chyflogwyr i nodi bwlch ac angen sgiliau
  • Y datblygiad cynnyrch newydd
  • Amlinelliad ar gyfer cynnwys cwrs newydd (Lefel 3 neu uwch)
  • Cyfleoedd dilyniant posib

Fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb crëwyd adroddiad o'r canfyddiadau. Mae'r astudiaeth hon wedi nodi bylchau yn y ddarpariaeth addysgol y tu hwnt i'r Lefel 1 a 2 Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod safonol a diddordeb ymysg y sector o ran cymwysterau a hyfforddiant newydd / gwahanol sy'n gyfwerth â Lefel 3 all fireinio sgiliau ynghylch tarddiad, cynhyrchu, paratoi a chadwraeth ar gyfer garddwriaeth, pobi, cynnyrch llaeth, pysgod a bwyd môr, bwtsiera a charcuterie, patisserie a phwdinau a diodydd.

I weld yr adroddiad llawn cliciwch yma.