Skip to the content

ASTUDIAETH DDICHONOLDEB DOSBARTHU BWYD - CYNGOR SIR CEREDIGION

Mae'r Astudiaeth Ddichonoldeb dosbarthu bwyd gan Gyngor Sir Ceredigion, ar ran y Grwpiau Gweithredu Lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ar Fodelau Logistaidd Cynaliadwy o Ddosbarthu Bwyd De Orllewin Cymru.

Mae COVID-19 wedi dangos galw cynyddol am ddosbarthiad bwyd lleol / rhanbarthol, gyda llawer o fusnesau'n gwerthu'n uniongyrchol i gwsmeriaid. Mae'r duedd hon yn deillio o angen a hygyrchedd yn galw sylw at fodelau amgen sy'n cefnogi set o werthoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Comisiynodd Cyngor Sir Ceredigion Miller Research (UK) Ltd i gynnal ymchwil ar fodelau ariannol cynaliadwy o ddosbarthu bwyd a logisteg yng Ngheredigion sy'n cynnwys:

  • Dadansoddiad o'r sefyllfa bresennol yng Ngheredigion
  • Profiad siopa cwsmeriaid yng Ngheredigion
  • Rheoli logisteg
  • Rheoli dosbarthiad i gynnwys canolbwynt canolog
  • Edrych ar fodelau sy'n bodoli eisoes yn y DU / Ewrop
  • Sefydlu grŵp ffocws i ddefnyddwyr
  • Sefydlu grŵp ffocws cynhyrchydd / rhanddeiliaid
  • Ymgynghoriadau ag unigolion / sefydliadau allanol allweddol ac arbenigwyr i nodi cydweithredu posibl

Ar ôl i'r ymchwil ddod i ben, cynhyrchir adroddiad ysgrifenedig ar y canfyddiadau sydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer Ceredigion. Cliciwch yma i darllen yr adroddiad.