SUT I WNEUD CAIS
Y BROSES GWNEUD CAIS
Ar hyn o bryd rydym yn derbyn syniadau ar gyfer prosiectau cydweithredu yn unig.
Rydym bellach wedi ymrwymo mwyafrif ein cronfeydd ond rydym yn adolygu ein sefyllfa ariannu yn barhaus wrth i weithgaredd cyfredol y prosiect fynd yn ei flaen a byddwn yn cyhoeddi unrhyw ddiweddariad ar ein gwefan.
Os oes gennych chi gydweithrediad neu syniadau prosiect eraill ac yr hoffech gael cymorth i'w symud ymlaen, cysylltwch â'r tîm trwy cynnalycardi@ceredigion.gov.uk os oes angen i chi drafod hyn ymhellach.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Gweld siart lif y broses gwneud cais.
PROSES 1
GWEITHGARWCH DICHONOLDEB AC YMCHWIL AR RADDFA FACH AC YMGYNGHORI (HYD AT £10,000)
Bydd hyn yn dilyn proses un cam - sy'n cynnwys cwblhau ffurflen gais syml.
- Bydd gweithgareddau cymwys yn cynnwys:
- Astudiaethau dichonoldeb.
- Gwaith ymchwil ar raddfa fach.
- Ymarferion ymgynghori.
- Costau cyflenwi sy'n gysylltiedig â'r uchod e.e. costau staff, amser gwirfoddolwyr ac ati.
Bydd y Grŵp Gweithredu Lleol yn sgorio'r cais yn seiliedig ar y meini prawf canlynol.
MEINI PRAWF | SGÔR |
A yw'n cydweddu â'r broses syml? | Y/N |
Ydy'r Grŵp Gweithredu Lleol yn hoffi'r syniad? | Y/N |
A yw'n cydweddu â blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol? | 25 |
A yw'n ymateb i angen penodedig? | 15 |
Cyflenwi'r targedau a'r canlyniadau | 10 |
Gwerth am arian (o ran y cydbwysedd rhwng costau ac allbynnau arfaethedig) | 5 |
Cyfanswm | 55 |
PROSES 2
YR HOLL WEITHGARWCH LEADER ARALL
CAM 1
DATGANIAD O DIDDORDEB
Mae'r broses Datganiad o Ddiddordeb yn ymwneud yn bennaf â gwirio cymhwysedd y cais a chydnabod ei botensial. Ar ôl derbyn y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb, bydd tîm Cynnal y Cardi yn gwirio a yw'n gymwys, yn cydweddu â'r Strategaeth Datblygu Lleol a'i fod yn dilyn egwyddorion LEADER. Caiff sylwadau eu rhoi hefyd gan y Grŵp Gweithredu Lleol.
Yna caiff y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ei thrafod gan y Grŵp Gweithredu Lleol. Bydd y Grŵp Gweithredu Lleol yn penderfynu p'un ai i wahodd yr ymgeisydd i baratoi a chyflwyno cais llawn. Ni fydd unrhyw sgorio ffurfiol. Bydd trafodaethau'r Grŵp Gweithredu Lleol yn seiliedig ar y canlynol.
- A yw'n cydweddu â blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol?
- A yw'r Grŵp Gweithredu Lleol yn hoffi'r syniad?
- A yw'n dilyn egwyddorion LEADER?
- A yw'n gymwys?
- A yw'n ymateb i angen penodedig?
Gall ymgeiswyr ailgyflwyno ei Ddatganiad o Ddiddordeb, neu os nad yw'n addas ar gyfer cymorth LEADER, caiff ymgeiswyr eu cyfeirio at raglen gyllido fwy addas.
CAM 2
CAIS LLAWN
Caiff y ffurflen gais lawn ei hasesu a'i sgorio gan Grŵp Dethol ac Arfarnu Cynnal y Cardi yn erbyn y meini prawf penodedig canlynol.
MEINI PRAWF | SGÔR |
Cydweddu â'r Strategaeth Datblygu Lleol? | 20 |
Tystiolaeth o angen a galw a phriodoldeb lleol | 15 |
Arloesi | 10 |
Yn cyfateb â mentrau perthnasol eraill | 5 |
Rheoli Prosiectau | 5 |
Cynaliadwyedd | 20 |
Cymhwyster a chyllid | 20 |
Themâu trawsbynciol | 5 |
Allbynnau | 10 |
Canlyniadau ac Effeithiau | 10 |
Gwerth am arian (o ran cydbwysedd rhwng costau ac allbynnau arfaethedig) | 10 |
Cyfanswm | 110 |