GALWAD AGORED AM SYNIADAU AR GYFER PROSIECTAU
MAE DATGANIADAU O DDIDDORDEB AR GYFER RHOI GWEITHGORAU LEADER AR WAITH YNG NGHEREDIGION AR GAU YN BRESENNOL
Nod LEADER yw cefnogi ymatebion arloesol i'r cyfleoedd neu'r heriau a wynebir gan ein cymunedau gwledig. Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn ar gyfer cyflenwi mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion. Mae Cynnal y Cardi am glywed gan unrhyw un sydd â syniadau prosiect LEADER priodol.
Mae'r cyfle hwn ar agor i bobl leol, cymunedau, busnesau neu sefydliadau a hoffai gefnogi eu cymunedau gwledig.
- Ydych chi am wneud y mwyaf o asedau naturiol a diwylliannol yr ardal?
- Oes gennych chi syniadau arloesol y mae angen eu treialu, eu hymchwilio neu eu treialu?
- Oes angen i chi ddatblygu'r gwasanaethau sydd ar gael i drigolion?
- Ydych chi'n gwneud y mwyaf o dechnoleg adnewyddadwy?
- Ydych chi'n teimlo eich bod chi ar ei hôl hi yn ddigidol?
Mae Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi wedi nodi nifer o flaenoriaethau ac fe'u hamlinellir o fewn y pum thema LEADER. Rhaid i unrhyw syniad gyflenwi o dan o leiaf un o'r rhain a dilyn egwyddorion LEADER. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion am y blaenoriaethau a'r enghreifftiau o'r math o weithgarwch LEADER:
Mae cymorth wedi cael ei roi ar gyfer y canlynol:
- Datblygu Prosiect
- Prosiectau Peilot
- Astudiaethau Dichonoldeb
- Hwyluso
- Hyfforddiant
- Mentora
- Ymgynghori
CYDWEITHREDU
OS OES SYNIADAU GENNYCH AR GYFER GWEITHGAREDDAU CYDWEITHREDU CYSYLLTWCH Â'R TÎM. GALL CYFLWYNIADAU GAEL EU GWNEUD AR SAIL DREIGL.