ADFYWIO TREFI GWLEDIG CEREDIGION
Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GGLl) wedi cefnogi Swyddog Datblygu Trefi Gwledig newydd i gydlynu a hwyluso cyflwyno gweithgaredd adfywio i gefnogi adferiad trefi gwledig Ceredigion i greu trefi ffyniannus, sy'n hydwyth ac yn canolbwyntio ar bobl.
Y trefi a nodwyd ar gyfer y rhaglen cymorth busnes digidol yw Aberystwyth, Aberaeron, Aberteifi, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Tregaron a chymunedau pellennig, ac mae’r gwaith yn parhau gyda’r gymuned leol, busnesau ac asiantaethau i weithredu a chyflwyno'r prosiectau ag ariannwyd gan y rhaglen.
Mae blaenoriaethau’r cynllun grant yn cynnwys:
- Cryfhau a chynnal economi trefi gwledig Ceredigion.
- Cryfhau cadwyn cyflenwi o fewn Ceredigion.
- Cael mynediad at wybodaeth sy’n arwain y farchnad a fydd yn galluogi busnesau Ceredigion i gael mynediad at ddata er mwyn cefnogi twf yn y sector preifat.
- Ymchwilio mewn i’r cyfleoedd ar gyfer model economi gylchol Ceredigion.
- Ychwanegu gwerth i gynnyrch lleol.
- Cefnogi a datblygu gallu a cydnerth o fewn cymunedau gwledig Ceredigion.
- Cefnogi arloesedd cymdeithasol sy’n helpu i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithasol.
Mae’r prosiectau canlynol wedi’u cefnogi gan y Rhaglen Datblygu Trefi Gwledig:
Aberystwyth
- Archwilio’r posibilrwydd o atgyfodi WiFi y dref: Mae trafodaethau yn parhau gyda’r gobaith o ailosod wifi y dref yn y flwyddyn newydd
Aberaeron
- Cynhaliwyd arolwg trafnidiaeth i ganfod profiad pobl leol ac ymwelwyr i’r dref
- Cytunwyd ar ap tref a gwe-gamera, a fydd yn cael eu lansio yn 2023
Aberteifi
- Gosodwyd synwyryddion o amgylch y dref i ddadansoddi data allweddol ar gyfer busnesau lleol megis y nifer o ymwelwyr i siopau
- Gosodwyd synwyryddion i ddadansoddi ansawdd aer a lefelau’r afon
- Estyniad o drwydded wifi am ddim am y 5 mlynedd nesaf
Tregaron
- Marchnata a Gwelliannau i’r dref: Cyfres o osodiadau a thechnegau marchnata i hyrwyddo’r ffaith bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei gynnal yn y dref. Gosodwyd meinciau picnic ac arddangosfeydd blodau a wnaeth helpu hyrwyddo lles o fewn y dref, yn creu tref fywiog i weithio, byw ac ymweld â.
- Gwelliant o Wi-fi’r dref
- Goleuadau Nadolig: Parhad o ddulliau marchnata’r dref i hyrwyddo a gwella Tregaron ac i gynorthwyo i ddenu twristiaeth yn ol i’r dref.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r rhaglen, cysylltwch â cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.