Skip to the content

TAFARN Y VALE - CWMNI TAFARN CYMUNEDOL DYFFRYN AERON CYF

Mae Cwmni Tafarn Cymunedol Dyffryn Aeron Cyf yn y broses gynnar o brynu tafarn leol Tafarn Dyffryn Aeron (a adwaenir fel y ‘Vale’ Inn) yn Ystrad Aeron i’w rhedeg fel menter gymunedol.

Mae Dyffryn Aeron yng nghanol y gymuned, yn ganolfan ar gyfer gweithgareddau lleol ac yn lleoliad gwych lle mae grwpiau lleol yn ymgynnull yn dilyn digwyddiadau eraill yn yr ardal gyfagos. Yn ogystal â’r gweithgareddau, mae’r dafarn yn lle poblogaidd i bobl ddod i gael prydau nos a chinio dydd Sul.

Mae Cwmni Tafarn Cymunedol Dyffryn Aeron Cyf yn Gymdeithas Budd Cymunedol, a ffurfiwyd yn ddiweddar, a grëwyd gan bobl leol i sicrhau dyfodol Tafarn y 'Vale' yn Ystrad Aeron. Ei nod yw creu canolbwynt cymunedol er budd y gymuned leol. Mae gwaith wedi cychwyn, sy'n cael ei arwain yn lleol gan y cwmni newydd ac yn cael ei gefnogi gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

Mae’r cwmni’n bwriadu prynu Tafarn y ‘Vale’ i’w rhedeg fel co-op drwy werthu cyfranddaliadau. Bydd y Cynnig Prynu Cyfranddaliadau yn agored i’r gymuned a’r cyhoedd yn gyffredinol, gyda’r arian a godir, ynghyd â grantiau a benthyciadau o ffynonellau eraill, wedi’u bwriadu i’w defnyddio i brynu ac adnewyddu’r dafarn.

Nod y prosiect yw comisiynu cwmni i weithio ar y cyd â Cwmni Tafarn Cymunedol Dyffryn Aeron Cyf i wneud gwaith dichonoldeb er mwyn:

  • Darparu ddadansoddiad o anghenion a darpariaeth gyfredol o fewn y maes penodol.
  • Nodi defnyddiau amgen posibl ar gyfer y 'Vale' a'i gyfleusterau i gefnogi cynigion a cheisiadau buddsoddi pellach.
  • Adeiladu ar y momentwm presennol a chynnal ymgysylltu ac ymgynghori pellach ag amrywiaeth o randdeiliaid.
  • Deall gallu lleol presennol o ran sgiliau ac arbenigedd i nodi bwlch sgiliau.
  • Dysgu oddi wrth fodelau a chyfleusterau eraill mewn mannau eraill.
  • Creu dadansoddiad o berthynas gadarnhaol bosibl y Vale â chynnal yr iaith Gymraeg a diwylliant lleol yn Nyffryn Aeron.

 

Bydd canlyniad y prosiect dichonoldeb hwn yn hynod fuddiol i gymuned gyfagos y Vale ac i Geredigion yn gyffredinol. Ymhen amser, ar ôl cwblhau'r astudiaeth ddichonoldeb, bydd astudiaeth achos yn cael ei chreu a bydd ar gael i unrhyw sefydliad arall sydd â diddordeb mewn datblygu eu prosiectau eu hunain i redeg sefydliadau fel menter gymunedol.

Am fwy o wybodaeth ar y prosiect ewch i https://www.tafarn.cymru/

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.