DYLUNIO EICH DYFODOL - COLEG CEREDIGION (CSG/UWTSD)
Gweithiodd Coleg Ceredigion, mewn cydweithrediad â'r Weinyddiaeth Adeiladu, Arloesi ac Addysg gyda'r sector adeiladu (yng Ngheredigion i ddechrau) ar astudiaeth ddichonoldeb i nodi bwlch sgiliau, a dadansoddi a datblygu dulliau newydd o weithio i fodloni'r gofynion cynyddol yn y sector adeiladu. .
Nod y prosiect oedd deall y bylchau sgiliau presennol o fewn cwmnïau adeiladu sy'n gweithio yng Ngheredigion, llunio cwricwlwm newydd ar gyfer y sector adeiladu trwy weithio gyda'r Weinyddiaeth Adeiladu, Arloesi ac Addysg a Pearsons, ysgogi ffyrdd newydd o feddwl gyda'r nod o drawsnewid adeiladu tai mewn i broses effeithlon a manwl a datblygu profiad gwaith a chyflogaeth ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r ystod newydd o gymwysterau.
Roedd gweithgareddau’r prosiect yn cynnwys:
- Nodi bwlch sgiliau ac archwilio ffyrdd newydd o adeiladu cartrefi
- Cyflogi ymgynghorydd i ddatblygu holiadur ar y cyd â'r coleg
- Gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth gyda'r Sefydliad i ddatblygu cyrsiau Lefel 3 i ategu at eu cyfres bresennol o ddarpariaeth AU
- Cynhadledd adeiladu i crynhoi a rhannu gofynion y sector, er mwyn hysbysu'r diwydiant o'r hyn y mae busnesau ei angen a sut y gellir ei gyflawni
- Adroddiad terfynol dwyieithog i sicrhau y rhennir y data yn unol, â hynny gyda'r ddogfen yn cael ei defnyddio i ddatblygu cwrs Lefel 3.
Uchafbwynt cwblhau'r adroddiad Dylunio Eich Dyfodol oedd cynhadledd lle rhannwyd y canfyddiadau. Roedd hefyd yn gyfle i wahanol randdeiliaid yn y sector adeiladu rwydweithio a rhoi adborth ar sut i symud ymlaen.
Mae trafodaethau ar y gweill ar gyfer y camau nesaf, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith sy'n cynnwys Rhanddeiliaid allweddol ledled Ceredigion. Mae hyn er mwyn mynd i'r afael â'r prinder sgiliau a recriwtio yn y diwydiant adeiladu. Mae hefyd angen sicrhau bod yr hyfforddiant a gynigir yn unol â thueddiadau a blaenoriaethau ehangach ar gyfer y sector.
Mae'r adroddiad terfynol a gynhyrchwyd wedi rhoi mewnwelediad gwerthfawr i'r diwydiant adeiladu yng Ngheredigion, cliciwch yma i weld yr adroddiad terfynol.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Darllen Pellach