CAMAU BACH - STRATA FLORIDA
Mae Abaty Strata Florida yn prif, ond safle treftadaeth annatblygedig i raddau helaeth, o genedlaethol Cymru yn ogystal ag yn arwyddocâd rhyngwladol. Yn 2016 prynodd Ymddiriedolaeth Strata Florida (YSF) ffermdy ac adeiladau Mynachlog Fawr i'r de o'r Abaty. Pwrpas YSF yw gwarchod yr adeiladau rhestredig a chreu Canolfan Strata Florida (CSF).
Pwrpas y prosiect dan arweiniad cymunedol, Camau Bach, gan Ymddiriedolaeth Strata Florida yw nodi a chydlynu cyfres o weithgareddau gan ddefnyddio a hyrwyddo sgiliau sy'n canolbwyntio'n benodol ar dreftadaeth, gan adeiladu ar allu lleol yng nghymuned Pontrhydfendigaid a'i bro.
Bydd y prosiect yn gweithio gyda’r Grŵp Cyswllt Cymunedol a Chasgliad y Werin Cymru i greu dwy swydd; Swyddog Ymgysylltu Cymunedol rhan-amser am 24 mis, i fod yn gyfrifol am gyflawni'r prosiect Camau Bach, a bydd yn gweithio gyda Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth. Cefnogir hyn gan swydd ran-amser arall am 24 mis i gynorthwyo gyda gweinyddu'r prosiect.
Bydd yn gam mawr wrth dynnu ynghyd, catalogio a pharatoi peth o dreftadaeth gyfoethog rhanbarth Cymru i'w defnyddio yn y Ganolfan arfaethedig. Bydd hwn yn fecanwaith ar gyfer cefnogi'r gymuned leol trwy gadarnhau ac atgyfnerthu ei hunaniaeth hanesyddol yn ogystal â darparu proses o adfywio economaidd trwy dreftadaeth trwy gefnogi nodau Ymddiriedolaeth Strata Florida ar gam hanfodol pwysig yn ei datblygiad o'r Ganolfan.
Fe wnaeth y prosiect creu rôl lawn-amser, a oedd wedi cael ei rhannu gan ddau unigolyn i facsimeiddio’r sgiliau a oedd angen i gyflwyno’r prosiect yn llwyddiannus. Mae’r gymuned wedi ymgysylltu gyda hanes a diwylliant eang a diddorol Strata Florida. Mae hyn wedi bod ar-lein (trwy’r wefan, cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron a digwyddiadau) a hefyd mewn person (trwy weithdai, digwyddiadau, diwrnodau agored, gweithgareddau gwirfoddol ac ymwelwyr i’r safle).
Mae gwirfoddolwyr wedi datblygu sgiliau trwy’r prosiect. Mae rholiau wedi cynnwys: garddio, digwyddiadau, cymryd rhan mewn prosiect tecstilau cymunedol, ymgyrchu prosiectau cymunedol, gwirfoddoli mewn arddangosfeydd, a hefyd archifo, catalogio a dewis eitemau o waith papur o Fynachlog Fawr. Mae’r unigolion sydd wedi cymryd rhan wedi ennill ystod eang o sgiliau sydd wedi darparu mwynhad, rhyngweithiad cymdeithasol a gymunedol a hefyd hyfforddiant i gefnogi gyrfaoedd academaidd.
Mae Ymddiriedolaeth Strata Florida wedi tyfu o fewn y nifer o weithgareddau sydd yn rhedeg, yn ogystal â’r nifer o ymwelwyr i’r safle ac enw da’r sefydliad. Fe wneith hyn bod o fudd i brosiectau a gweithgareddau yn y dyfodol.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Darllen Pellach