LLWYBR BEICIO DYFFRYN AERON - GRŴP CYMUNEDOL DYFFRYN AERON
Ar hyn o bryd, ni all trigiannydd Ciliau Aeron a'r ardal gyfagos gael mynediad diogel i gyfleusterau yn Aberaeron heblaw mewn car. Pwrpas yr astudiaeth dichonolrwydd oedd pennu hyfywdra a chost creu llwybr beicio 1.27milltir o Ciliau Aeron i ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - Llanerchaeron. Trwy wneud hyn byddai'r llwybr beicio wedyn yn cysylltu â rhwydwaith llwybrau cerdded yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r llwybr beicio presennol i Aberaeron.
Nododd Grŵp Beicio Cymunedol Dyffryn Aeron fod angen y llwybr hwn ar ôl sawl cyfarfod yn 2015. Nod y llwybr beicio arfaethedig yw rhoi ffordd ddiogel a chynaliadwy i bobl leol ac ymwelwyr deithio i nid yn unig i ymweld â Llanerchaeron ond darparu mynediad i Aberaeron tra iddyn nhw allu mwynhau ac archwilio cefn gwlad Dyffryn Aeron.
Roedd y gweithgareddau yn yr astudiaeth hon yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb, holiadur a digwyddiad ymgynghori.
Roedd yr holiadur ar gael ar-lein ac yn y digwyddiad ymgynghori. Derbyniwyd 210 o ymatebion o'r ddau gyfle. Rhai o'r canlyniadau allweddol a ddarganfuwyd o'r holiadur oedd:
- Er bod tua 46% o atebwyr bellach yn defnyddio llwybrau cerdded lleol bob wythnos, gwelodd y canlyniadau y byddai dros 80% yn defnyddio'r llwybr newydd.
- Dywedodd 38% o atebwyr y byddent yn defnyddio'r llwybr newydd i arsylwi ar natur tra dywedodd dros 70% y byddent bellach yn beicio rhwng Ciliau Aeron ac Aberaeron.
- Roedd ystod lawn o grwpiau oedran yn rhan o'r broses ymgynghori gyfan. (8% o dan 16, 36% 17-45 oed, 18% 46-65 oed, tra bod 33% dros 65 oed.
Roedd diddordeb yn y prosiect yn un aml-genhedlaeth a chafwyd ymateb da hefyd i'r cwestiynau a ofynnwyd am wirfoddolwyr ar gyfer adeiladu, a chynnal a chadw'r llwybr. Dyma fanteision y llwybr beicio -
- darparu ffordd ddiogel a chynaliadwy o deithio i Aberaeron i drigolion lleol ac ymwelwyr
- caniatáu i drigolion lleol ac ymwelwyr fwynhau ac archwilio cefn gwlad Dyffryn Aeron
- caniatáu i blant Ysgol Ciliau Aeron gael mynediad at adnoddau dysgu yng ngardd furiog Tyglyn a Llanerchaeron ar droed
- byddai cynnydd mawr yn nifer o bobl a fyddai'n defnyddio'r llwybr yn hytrach na gyrru
- Yn ogystal â beicwyr a cherddwyr, canfu canlyniadau'r astudiaeth y byddai pobl hefyd yn defnyddio'r llwybr i arsylwi ar natur
- Mae'r ffigurau cyfartalog yn awgrymu bod Seiclwyr yn gwario £21 ar gyfartaledd ym mhob ymweliad â ardal ac mae cerddwyr yn gwario £26
- Bydd eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron yn cael mwy o ymwelwyr. Gydag ymwelwyr yn gwario ar fynediad, prynu eitemau o'u siop a stopio am goffi a chacen yn y caffi sy'n gyfeillgar i feiciau.
- Yn Llanerchaeron hefyd mae 'Pure Ride Cycle Hire' sydd â fflyd o 20+ o feiciau oedolion a phlant, yn ogystal mae hefyd ganddyn nhw feiciau a threlars ar gyfer y plant llai. Ar hyn o bryd mae Pure Ride yn gwasanaethu twristiaid a phobl leol ar adegau prysur sy'n dymuno beicio i mewn i Aberaeron ar hyd yr hen reilffordd. Maent hefyd yn gwasanaethu'r canolfannau llwybrau beicio mynydd lleol yng nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin, a Nant yr Arian ger Aberystwyth. Byddai'r llwybr newydd yn cynyddu traffig drwy'r siop llogi, gan helpu i sicrhau dyfodol y busnes bach hwn a chaniatáu iddynt ehangu, a hyd yn oed creu swyddi tymhorol.
I weld yr adroddiad dichonoldeb llawn, cliciwch yma.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Darllen Pellach