CYNNAL Y CARDI CRONFA GRANT LEADER
Fel rhan o’r cynllun LEADER, fe wnaeth Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi lansio Cronfa Grant newydd, gyda’r bwriad o gefnogi gweithgaredd LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.
Cynlluniwyd y gronfa i helpu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau gwledig, gyda'r nod o ddarparu cymorth refeniw ar raddfa fach i:
- Sefydliadau wrth iddynt adfer yn dilyn covid.
 - Cynorthwyo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyn-fasnachol.
 - Peilota gweithgareddau arloesol sy’n cynnig cyfleoedd i brofi cysyniad syniad.
 - Cynorthwyo gweithgarwch sy’n cryfhau cydlynu cymunedol.
 
Canolbwyntiodd y Cyllid Grant ar y blaenoriaethau canlynol o Strategaeth Datblygu Leol Cynnal y Cardi:
- cefnogi gweithgarwch gyda’r nod o wella cyfleoedd i ddatblygu economi gylchol Ceredigion
 - cefnogi ymyrraeth gynnar ar gyfer datblygu gweithgarwch cyn-fasnachol gyda’r bwriad o feithrin cyfleoedd entrepreneuriaid
 - cryfhau gwytnwch cymunedol gan ganolbwyntio ar rôl y Cynghorau Tref a Chymuned wrth gefnogi ac ymgysylltu â’u cymunedau
 - meithrin cyfleoedd i ail-ymgysylltu â phobl ac ail-rymuso gweithgarwch cymunedol yn dilyn COVID-19 a threialu defnydd arloesol ar gyfer cyfleusterau cymunedol
 
Mae 23 o’r prosiectau canlynol ledled Ceredigion wedi’u cymeradwyo ar gyfer grant o dan gynllun LEADER:
- Neuadd Goffa Cei Newydd – Cyfarfodydd hybrid
 - Neuadd Goffa Caerwedros – offer cynadledda rhithiol
 - Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi - Cynnal Llanddewi
 - Golwg – Ceredigion 360
 - Prifysgol Aberystwyth – Rhaglen Agored Dathliadau 150fed
 - Rasys Trotian Talgarreg
 - Welsh National Eisteddfod– Gwledda
 - Calon Tysul
 - Sioe Llandysul
 - Llwybr Dyffryn Teifi
 - Neuadd Pentref Aberarth
 - Neuadd Pentref Talgarreg
 - Neuadd Pentref Talybont
 - Cyngor ar Bopeth Ceredigion
 - Clwb Pel-Droed Llanilar
 - 4CG - Capel Tabernacl Aberteifi
 - Eco Hub Aberystwyth
 - Fforwm Tyfu Bwyd Cymunedol
 - Neuadd Tregaron
 - Neuadd Mydroilyn
 - Neuadd Llechryd
 - Cyngor Cymuned Beulah
 - Golwg
 
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm trwy e-bost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.