ARFOR - Creu Gwaith - Cefnogi'r Iaith
Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Ail Wedd ARFOR
Ar 10 Hydref 2022, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru y bydd £11 miliwn pellach yn cael ei ddarparu ar gyfer ail wedd ARFOR hyd at diwedd Mawrth 2025.
Bydd y rhaglen yn parhau i weithredu ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, er mwyn cefnogi'r cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyraethau economaidd fydd hefyd yn cyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.
Mae ARFOR - Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin - nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Amcanion Strategol Rhaglen ARFOR
- Creu cyfleoedd i pobl a teuluoedd ifanc (<35 oed) aros neu i ddychwelyd i’w cymunedau cynhenid - gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fentro neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sydd yn cyflawni eu dyheadau
- Creu cymunedau mentrus o fewn y fro Gymraeg - drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy’n anelu i gadw a chynyddu cyfoeth lleol gan fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd
- Uchafu budd gweithgaredd drwy gydweithio - drwy sefydlu meddylfryd dysgu drwy wneud a gwella parhaus, dysgu o weithgaredd o fewn ardaloedd unigol ac yna ei ymestyn, ond gyda teilwra i amgylchiadau lleol
- Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg - drwy gefnogi defnydd a gwelededd y Gymraeg, annog naws am le a theyrngarwch lleol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n gyffredin ar draws yr rhanbarth
Cymunedau Mentrus – Cronfa Cefnogaeth Rhaglen ARFOR
Yn targedu mentrau masnachol, cymdeithasol, chydweithredol a cymunedol sydd yn anelu at gadw a chynyddu cyfoeth yn lleol mewn ardaloedd sy’n cael eu hystyried yn gadarnleoedd y Gymraeg, sef Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (rhanbarth ARFOR).
Mae’r gronfa yn cael ei weinyddu gan y Cyngor Sir Ceredigion.
Beth sydd ar gael:
- Gyllid i gyfrannu at gostau refeniw a chyfalaf
- Cefnogaeth ariannol i dalu am hyd at 70% o gostau'r prosiect
- Cefnogaeth rhwng £5,000 a £75,000 ar gael
Mae’r Gronfa am gefnogi prosiectau sy’n:
- Creu cyfle i arloesi a datblygu mentrau newydd yn unol ag adnoddau, tirwedd a’r amgylchedd lleol
- Creu neu ehangu cyfleoedd gwaith cyfoes (e.e. ym meysydd y cyfryngau, y byd digidol, ymchwil, gwasanaethau proffesiynol)
- Cadw cyfoeth yn y rhanbarth (e.e. trwy feysydd megis cynhyrchu ac arbed ynni, cadwyni cyfenwi’r sectorau sylfaenol).
Mae na ofyniad i ymgeiswyr gwblhau asesiad Iaith sy’n cael ei gynnal gan Comisiynydd y Iaith fel rhan o’r proses ag ymrwymo i weithio gyda’r Comisiynydd y Iaith i gael cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg erbyn Rhagfyr 2024.
- Canllawiau Cymunedau Mentrus
- Beth yw’r Cynnig Cymraeg?
- Cytundeb Egwyddorion
- Ffurflen Buddiolwyr
- Holiadur Hunan Asesu - Cynllun Datblygu'r Gymraeg
- Rhaglen ARFOR
- Cwestiynau a Atebion
- Meini Prawf a Graddio
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r tîm ar ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.
Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2024.
Astudiaeth Achos Merched y Wawr Ceredigion
I wylio astudiaeth achos Merched Y Wawr dilynwch y linc:
https://youtu.be/kS6rbdow3Nk?si=2n-kzf8thAPisaMO
Astudiaeth Achos Rhys Jones, Cattle Strength
https://youtu.be/AnAB9vsnJ9Y?si=bwQxBZNty8wkFbEN