GRŴP GWEITHREDU LLEOL CYNNAL Y CARDI CEREDIGION
LEADER
Mae'r Rhaglen LEADER yng Ngheredigion yn cael ei gweithredu gan Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi. Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol wedi'i ffurfio o gynrychiolydd gan dri sector - Preifat, Cymunedol a Chyhoeddus. Y pwrpas yw sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o fuddiannau.
Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol yn gyfrifol am ddatblygu a chyflenwi'r Strategaeth Datblygu Lleol. Mae'r ddogfen yn nodi amcanion, blaenoriaethau strategol a'r camau gweithredu i'w cymryd. Mae'r Grŵp Gweithredu Lleol yn gyfrifol am ddewis gweithgareddau LEADER a bydd yn rheoli cyllideb i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau er mwyn gwireddu blaenoriaethau'r Strategaeth Datblygu Lleol. Bydd monitro a gwerthuso parhaus yn nodwedd allweddol o weithredu'r strategaeth. Os hoffech chi fod yn aelod a'r Grŵp Gweithredu Lleol, gweler isod.
Cynrychiolaeth o'r Sector Preifat
- Undeb Ffermwyr Cymru
- Twristiaeth Ceredigion Tourism
- Antur Teifi
- Menter a Busnes
- Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr
- Barcud Cyf
Cynrychiolaeth o'r Sector Cymunedol
- Whilen y Porthmyn
- Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion (FLAG)
- Cymdeithasu Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion
- Menter Aberteifi
- Cwmni Buddsoddi Cymunedol Mynyddoedd Cambria
- Clwb Ffermwyr Ifanc
- Biosffer Ecodyfi / Dyfi Biosphere
- Llandysul & Phont Tyweli Ymlaen Cyf
- Cwmni Theatr Arad Goch
- Undeb Myfyrwyr Aberystwyth
Cynrychiolaeth Sefydliadau Cyhoeddus
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
- Prifysgol Aberystwyth
Dyddiad y cyfarfod Grŵp Gweithredu Lleol nesaf yw: Dydd Llun 16eg Ionawr 2023
BOD YN AELOD O'R GRŴP GWEITHREDU LLEOL
Os hoffech drafod bod yn aelod o Grŵp Gweithredu Lleol Ceredigion neu ddysgu rhagor am waith y Grŵp Gweithredu Lleol, cysylltwch â'r tîm Cynnal y Cardi:
Ffôn: 01545 570881
E-bost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
Caiff yr holl ymholiadau a datganiadau o ddiddordeb ynghylch gwneud cais am aelodaeth eu trin yn hollol gyfrinachol ac yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.