Skip to the content

GALWAD AGORED AM SYNIADAU AR GYFER PROSIECTAU

MAE DATGANIADAU O DDIDDORDEB AR GYFER RHOI GWEITHGORAU LEADER AR WAITH YNG NGHEREDIGION AR GAU YN BRESENNOL

 

Nod LEADER yw cefnogi ymatebion arloesol i'r cyfleoedd neu'r heriau a wynebir gan ein cymunedau gwledig. Mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi wedi llwyddo i sicrhau dros £3 miliwn ar gyfer cyflenwi mentrau gwledig arloesol tan 2020 yng Ngheredigion. Mae Cynnal y Cardi am glywed gan unrhyw un sydd â syniadau prosiect LEADER priodol.

Mae'r cyfle hwn ar agor i bobl leol, cymunedau, busnesau neu sefydliadau a hoffai gefnogi eu cymunedau gwledig.

  • Ydych chi am wneud y mwyaf o asedau naturiol a diwylliannol yr ardal?
  • Oes gennych chi syniadau arloesol y mae angen eu treialu, eu hymchwilio neu eu treialu?
  • Oes angen i chi ddatblygu'r gwasanaethau sydd ar gael i drigolion?
  • Ydych chi'n gwneud y mwyaf o dechnoleg adnewyddadwy?
  • Ydych chi'n teimlo eich bod chi ar ei hôl hi yn ddigidol?

 


 

Mae Strategaeth Datblygu Lleol Cynnal y Cardi wedi nodi nifer o flaenoriaethau ac fe'u hamlinellir o fewn y pum thema LEADER. Rhaid i unrhyw syniad gyflenwi o dan o leiaf un o'r rhain a dilyn egwyddorion LEADER. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion am y blaenoriaethau a'r enghreifftiau o'r math o weithgarwch LEADER:

Mae cymorth wedi cael ei roi ar gyfer y canlynol:

  • Datblygu Prosiect
  • Prosiectau Peilot
  • Astudiaethau Dichonoldeb
  • Hwyluso
  • Hyfforddiant
  • Mentora
  • Ymgynghori

 

 


 

CYDWEITHREDU

 

OS OES SYNIADAU GENNYCH AR GYFER GWEITHGAREDDAU CYDWEITHREDU CYSYLLTWCH Â'R TÎM. GALL CYFLWYNIADAU GAEL EU GWNEUD AR SAIL DREIGL.

 

Cewch wybod rhagor am LEADER yn y ffilm fer hon gan y Rhwydwaith Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig.

CYSYLLTWCH Â'N TÎM CYFEILLGAR

Cysylltu â ni

Ebost: cynnalycardi@ceredigion.gov.uk  Ffôn: 01545 570881

Defnyddiwch y ffurflen isod i gysylltu â ni.

 

Mae 'Enw cyntaf' yn faes angenrheidiol
Mae 'Enw olaf' yn faes angenrheidiol
Rhowch gyfeiriad Ebost dilys