Skip to the content

CYNLLUNIAU LLE CEREDIGION - CYNGOR SIR CEREDIGION

Anogodd Llywodraeth Cymru ddull newydd o gynllunio cymunedol yng Nghymru ac anogwyd Cynghorau Sir i gefnogi cymunedau lleol i baratoi Cynlluniau Lle lleol gyda'r nod o gael y rhain i'w mabwysiadu gan y Cyngor Sir fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i eistedd o dan y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Mabwysiadodd Cynlluniau Lle Ceredigion Ddull Rhanbarthol i alinio â’i Strategaeth Gorfforaethol a gwahoddwyd chwe thref i baratoi, Cynlluniau Gweithredu gan ddefnyddio dull “Gwaelod i Fyny”. Rhoddodd hyn gyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd a thrafod yr hyn sydd angen digwydd i wneud eu lle y gorau y gall fod a rhoi cyfle iddynt berchnogi eu Cynlluniau Lle.

 

Cafodd y 6 Thref - Aberystwyth, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Aberteifi a Llandysul - y dasg o ymgysylltu â'r gymuned a gwnaed hyn mewn sawl ffordd gan gynnwys llunio holiaduron, trefnu gweithdai, cynnal sesiynau galw heibio ac ati.

 

Ar ddiwedd y broses paratôdd pob un o'r chwe thref Ddogfen Cynllun Lle terfynol i'w mabwysiadu fel Canllaw Cynllunio Atodol gan Gyngor Sir Ceredigion. Gellir gweld y Ddogfen ar gyfer pob tref isod.

 

Dogfen Cynlluniau Lle Aberystwyth

Dogfen Cynlluniau Lle Aberaeron

Dogfen Cynlluniau Lle Llanbedr Pont Steffan

Dogfen Cynlluniau Lle Tregaron

Dogfen Cynlluniau Lle Aberteifi

Dogfen Cynlluniau Lle Llandysul

 

Yn dilyn ymlaen o ymgysylltiad Cynlluniau Lle Ceredigion ac o ganlyniad i Covid-19 mae Swyddog Datblygiadau Gwledig bellach wedi'i benodi i gydlynu a hwyluso gwaith o ddarparu gweithgaredd adfywio i gefnogi adfer trefi gwledig a chymunedau anghysbell Ceredigion. I gael mwy o wybodaeth am Ddatblygu Trefi Gwledig cliciwch yma.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.