Skip to the content

ASTUDIAETH DDICHONOLDEB O FENTRAU CYMDEITHASOL ECONOMAIDD - MIND ABERYSTWYTH

Un o'r gwasanaethau mwyaf addawol y mae MIND Aberystwyth yn ei gynnig yw grŵp ecotherapi. Mae'r gwasanaeth ecotherapi wythnosol yn caniatáu i tua 15 o bobl yr wythnos sy'n cael eu heffeithio gan bryderon iechyd meddwl ac anhwylderau sbectrwm awtistig fwynhau gweithgareddau diogel, strwythuredig mewn amgylchedd naturiol. Mae'r gweithgareddau'n amrywiol a'u nod yw hyrwyddo amrywiaeth o sgiliau a dulliau therapiwtig o reoli coetir, i wneud basgedi. Mae'r sesiynau'n darparu allfa gymdeithasol ac yn hyrwyddo ymarfer corff, meithrin perthnasoedd a gwaith tîm.

Bwriad yr Astudiaeth Ddichonoldeb o Fentrau Cymdeithasol Economaidd oedd archwilio gweithgareddau newydd ar gyfer defnyddwyr presennol ac agor y gwasanaeth i'r cyhoedd - gan ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i'r rheini â phryderon iechyd meddwl o hyd.

Edrychodd yr astudiaeth ddichonoldeb ar ddatblygu’r gwasanaeth ecotherapi presennol trwy yn gyntaf sefydlu lleoliad ar gyfer y prosiect, yna trawsnewid y gwasanaeth presennol yn ganolbwynt cymunedol o gyfleusterau a gweithgareddau antur, gan greu canolfan ar gyfer ecotherapi, gan ymgorffori ysgol goedwig, campfa werdd, clwb ar ôl ysgol, meithrinfa phlant awyr agored a chreu caffi a chanolfan gynadledda fach.

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad bod potensial sylweddol i ddatblygu gwasanaeth ecotherapi yng Ngheredigion. Canfu fod Ceredigion mewn sefyllfa dda o ran y priodoleddau sydd eu hangen i ddarparu ystod eang o wasanaethau ecotherapi. Cydnabu hefyd, fodd bynnag, y byddai dibyniaeth ar rwydwaith trafnidiaeth y sir, a allai fod yn rhwystr rhag cyrchu gwasanaeth o'r fath.

Mae'r astudiaeth ddichonoldeb eisoes wedi bod yn fuddiol i Mind Aberystwyth, yn enwedig wrth lunio eu meddwl ynghylch sut i fwrw ymlaen ag ecotherapi, ond hefyd o ran cysylltu â darparwyr eraill yn yr ardal sydd â bwriadau tebyg.

Bydd yr adroddiad ei hun o fudd mawr i'r gymuned leol yn ogystal â Mind a gellir ei weld trwy glicio yma.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.