Skip to the content

ACADEMI’R DYFODOL - COLEG CEREDIGION

Roedd Academi’r Dyfodol yn brosiect peilot gan Goleg Ceredigion a dreialodd weithdai mewn nifer o feysydd sector â blaenoriaeth i bobl ifanc.

Nod y prosiect oedd datblygu arloesedd a chreadigrwydd, hyrwyddo entrepreneuriaeth, a meithrin hyder a gwytnwch.

Y bwriad oedd cyflwyno dwy set o weithdai (Sector Bwyd - Gweithdy Arlwyo, Sector Celfyddydau Perfformio - Gweithdy Perfformio, Sector Celf - Gweithdy Celf a Sector Ffilm neu Graffeg - gweithdy cyfryngau) dros gyfnod o 8 wythnos ar draws 3 maes sector. Anelwyd y gweithdai at garfan o ddysgwyr ysgol 14-16 oed heb unrhyw lwybr gyrfa penodol mewn golwg.

Gan nad oedd y prosiect hwn wedi'i achredu, roedd hyn yn caniatáu i unigolion roi cynnig ar sgiliau newydd heb y pwysau o gael eu hasesu'n ffurfiol. Fe greodd y gweithgareddau amgylchedd a oedd yn caniatáu i gyfranogwyr dyfu a datblygu fel unigolion yn ogystal â dysgu sut i weithio mewn timau. Roedd cyfranogwyr yn agored i heriau a chyfleoedd busnes go iawn trwy'r Crewyr Prosiect a'r Tiwtoriaid.

Yn ogystal â’r gweithdai ymarferol, daethpwyd â dysgwyr ynghyd ar gyfer cyflwyniad byr, ar ffurf ‘Ted Talks’, gan entrepreneur sefydledig - Anouska o Grochenwaith Penrhiw.

Ar ôl cwblhau'r 8 wythnos, cynhaliwyd noson agored fel cyfle i rieni weld yr allbwn o waith y cyfranogwyr a'u gweld yn cael tystysgrifau presenoldeb.

At ei gilydd, roedd adborth gan rieni / gwarcheidwaid a chyfranogwyr yn gadarnhaol iawn. Enghraifft o hyn oedd bod un cyfranogwr yn gallu trafod ei syniadau busnes yn y dyfodol gyda Busnes Cymru ac arweinwyr y prosiect, o'r trafodaethau hyn, nodwyd llwybrau i wneud hyn yn bosib.

Yn anffodus, oherwydd Covid-19, ni lwyddodd yr ail cam o'r prosiect mynd ymlaen.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.