Skip to the content

BICA BYW - PWYLLGOR LLES LLANGRANNOG

Pentref sy'n brolio mewn canrifoedd o hanes o ryd Geltaidd i'r chwedl Bica, llwybr arfordirol Cymreig anhygoel a chanolfan enwog yr Urdd, mae Llangrannog yng nghymuned llawn botensial. Bydd prosiect Bica Byw yn macsimeiddio popeth sydd gab Llangrannog i gynnig trwy ymgysylltu â'r gymuned leol i dreialu a datblygu syniadau newydd a chyffrous.

 

Mae’r prosiect yn anelu at creu cymuned gynaliadwy ar gyfer Llangrannog wrth gynyddu asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol i'r eithaf ac ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol.

Mae gweithgareddau'r prosiect yn cynnwys defnyddio cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau awyr agored, cynnal ymgynghoriad cymunedol i edrych ar hyfywedd capel Crannog yn y dyfodol, cynnal gweithdai digidol, astudiaeth beilot ar gyfer gêm ddigidol i blant, mentora i wirfoddolwyr i gynyddu'r gallu i ddatblygu mentrau cymdeithasol a chryfhau eu sgiliau, sicrhau cynaliadwyedd a pharhad gweithgaredd lleol, gweithdai i sefydliadau, cymdeithasau ac unigolion er mwyn ddod ynghyd i greu un darn o waith celf i ddathlu chwedlau, hanes a Llangrannog heddiw a mentrau sy'n darparu gwell mynediad i'r amgylchedd naturiol, a datblygu mentrau sy'n darparu gwell mynediad i'r amgylchedd naturiol ac yn creu cymuned gryfach a mwy rhyngweithiol

Bydd ystod eang o bobl yn elwa o'r prosiect hwn gan gynnwys; pobl ifanc, pobl hŷn, menywod, siaradwyr Cymraeg, pobl ag anableddau, aelwydydd sy’n ffermio, busnesau bach a holl gymuned Llangrannog.

Cynhyrchwyd astudiaeth dichonoldeb gan y prosiect sydd wedi rhoi sylfaen da i Bwyllgor Capel Crannog i fynd i’r cam nesaf o ddatblygu’r syniad o greu gofod gweithdy yn yr hen Gapel. Mae’r pwyllgor wedi cwrdd ac wedi ysgogi i symud ymlaen.

Hefyd, cynhyrchwyd App sydd wedi ychwanegu gwerth a chreu diddordeb digidol yn Llangrannog. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth am chymeriadau haensyddol yr ardal, gan sicrhau cynaladwyedd diwylliannol.

 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Gymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.