Skip to the content

DOD YNGHYD - RADIO BECA

Roedd pandemig Covid-19 wedi cael effaith ar ein gallu a'n hawydd i ymgynnull. Gyda hen arferion cyfarfod yn cael eu diddymu roedd pobl yn arunig ac roedd popeth oedd yn dal ein cymunedau gyda'i gilydd allan o gysylltiad.

Roedd Dod Ynghyd, yn brosiect cydweithredu gan Radio Beca rhwng Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro gyda'r nod o gymell a galluogi cymdogaethau'r siroedd i greu rhaglenni eu hunain a'u darlledu ledled y byd, gyda chefnogaeth Radio Beca.

Yng Ngheredigion cyflogodd y prosiect Gymhellwr / Hyfforddwr, yn unol â'r modelau Addysgu Anffurfiol y mae'r rhaglenni Radio Beca yn seiliedig arnynt, gyda rôl o greu a gweithio gyda grwpiau i dyfu hadau hyder, hunan ddarganfod ac uchelgais gymdeithasol yn y sir.

Fel rhan o weithgareddau'r prosiect, dyfeisiwyd canllawiau Dod Ynghyd i helpu unigolion neu sefydliadau sydd am ddod â phobl ynghyd i gynnal rhyw elfen o gymdeithas ac ysbryd cymunedol. Gall y pecyn cymorth helpu trwy gefnogi trefniadaeth rhaglenni flynyddol, gŵyl, cynnal digwyddiad ar gyfer eich pentref neu gymuned a llawer o ddigwyddiadau cymunedol eraill.


I weld y canllawiau cliciwch yma.

Mae'r tonnau darlledu a grëwyd gan Dod Ynghyd nid yn unig wedi bod yn amrywiol ac yn eang ond hefyd yn ddadlennol, i weld yr adroddiad llawn ar weithgareddau a chanlyniadau'r prosiect cliciwch yma.