Skip to the content

ASESIAD ANGHENION A CHYNLLUN GWEITHREDU GWELEDIGAETH HYDROGEN CANOLBARTH CYMRU

Gwelodd prosiect cydweithredu Ceredigion a Powys, Asesiad Anghenion a Chynllun Gweithredu Gweledigaeth Hydrogen Canolbarth Cymru 200 o randdeiliaid o’r sectorau preifat, cyhoeddus a chymunedol fel rhan o ddatblygiad cynnar Bargen Twf Canolbarth Cymru i drafod a rhannu syniadau.

Yr uchelgeisiau y gwelwyd y gefnogaeth gryfaf iddynt oedd canolbarth Cymru’n dod yn rhanbarth di-garbon, di-wastraff, gyda hydrogen gwyrdd ac egwyddorion economi gylchol. 

Mae llawer yn ystyried hydrogen yn rhan allweddol o’r gymysgedd dechnolegol a fydd yn ein helpu i gyrraedd y targedau hyn. Mae gan Ganolbarth Cymru allu rhanbarthol, megis CAT a Riversimple a mentrau eraill. Byddai’r prosiect yma’n darparu mandad eglur i nodi ymyriadau dichonadwy a hyfyw, gan arwain at fuddsoddiadau seiliedig ar dystiolaeth.

Ni roddwyd cynnig ar unrhyw atebion eraill hyd yma, ond credir mai dyma’r man cychwyn mwyaf synhwyrol i ddaraparu tystiolaeth ar yr hyfywedd cyn symud ymlaen i edrych ar y dewisiadau ymhellach.

Mae’r darn yma o waith yn arloesol iawn ei ffocws a gallai’r dystiolaeth mwy hirdymor esgor ar fuddiannau i ganolbarth Cymru. Bydd y prosiect yn archwilio sut y gall buddsoddi mewn hydrogen ychwanegu at gyflenwi potensial Bargen Twf Canolbarth Cymru, Strategaeth Ynni canolbarth Cymru a Strategaeth Carbon Positif PSB.

Disgwylir i ymgynghorwyr fynd y tu hwnt i astudiaeth ben-bwrdd draddodiadol sy’n ymgysylltu â’r prif randdeiliaid, ac yn cyflawni gwaith trylwyr ar draws y rhanbarth i gefnogi’r gwaith o baratoi Asesiad o Gyfleoedd Ynni Hydrogen, Astudiaeth Dichonolrwydd Hydrogen ac adroddiad manwl sy’n amlinellu’r canfyddiadau ynghyd ag argymhellion a chynllun gweithredu wedi’i gostio. Bydd deilliannau’r prosiect yn darparu mandad a sail tystiolaeth eglur ac ar yr un pryd yn ateb y cwestiwn “A all hydrogen ddod yn realiti sy’n ddichonadwy yn fasnachol yng nghanolbarth Cymru?” 

 

Trwy gomisiwn manwl 6-mis dan arweiniad rhanddeiliaid, bydd ymgynghorwyr yn archwilio dulliau o annog a hyrwyddo datblygiad gwledig mewn dull sy’n fasnachol hyfyw. Bydd yr ymyriadau’n ceisio ymateb i anghenion cymunedol ac yn nodi ymyriadau sy’n creu buddiannau cynaliadwy, megis rhagor o gadwyni cyflenwi, creu sgiliau a swyddi, a datgarboneiddio trwy berchnogaeth ynni ranbarthol.  

I weld yr adroddiad, cliciwch yma.